Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladolLL+C
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge fod yn rhaid i fyfyriwr Oxbridge cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr Oxbridge cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)