Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

5.  Yn lle paragraff (7) o reoliad 4 (myfyrwyr cymwys), rhodder—LL+C

(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), os yw person yn bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c) ac nid yw’n bodloni paragraff (3)(c) mae’r person yn fyfyriwr cymwys at ddiben y Rheoliadau hyn ac yn unol â hynny, nid yw paragraffau (2) a (3)(a), (b), (d), (e) ac (f) yn gymwys i’r person.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)