Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 192 (Cy. 43)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

15 Chwefror 2018

Yn dod i rym

2 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.