- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen (amod 4 ar gyfer gweithredu rhyddhadau) yw—
(a)unrhyw ddogfen a ddarparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod pridiant tir cyfreithiol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau o blaid ACC; a
(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond.
8. Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) yw—
(a)datganiad gan y dyroddwr bond, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ran y dyroddwr bond, fod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni;
(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(c)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; a
(d)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
9. Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen (tir amnewid sydd yng Nghymru) yw—
(a)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; ac
(c)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
10. Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen (tir amnewid nad yw yng Nghymru) yw—
(a)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(b)y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol;
(c)unrhyw ddogfen sy’n profi nad yw’r tir amnewid yng Nghymru a bod amodau 1 i 3 yn Rhan 3 o’r Atodlen wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir hwnnw; a
(d)unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys