xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 2(4)
1 | Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff |
Safon 115: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 116: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 96), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 117: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 106) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
2 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
3 | At ddibenion safonau 115, 116 a 117, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |