xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010

Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010

17.  Mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(1) wedi eu diwygio fel y nodir yn rheoliadau 18 i 28.

Rhan 1 (cyffredinol)

18.  Yn rheoliad 2 (dehongli) ym mharagraff (1) hepgorer “new dwelling” ac “optional requirement” a’u priod ddiffiniadau.

Rhan 2 (rhoi cymeradwyaeth ai thynnu yn ôl)

19.—(1Yn rholiad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy)—

(a)yn lle “Secretary of State” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “Welsh Ministers”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “6th April 2013” rhodder “8 June 2018”.

(2Yn rheoliad 7 (rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau)—

(a)yn lle “Secretary of State” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “Welsh Ministers”;

(b)ym mharagraff (3) ailrifer is-baragraffau (aa) a (b) yn (b) ac (c) yn y drefn honno.

Rhan 3 (goruchwylio gwaith gan arolygwyr cymeradwy)

20.  Yn rheoliad 8 (swyddogaethau arolygwyr cymeradwy)—

(a)ym mharagraff (1)(a)—

(i)yn lle “26A (fabric energy efficiency rates for new buildings)” rhodder “26A (primary energy consumption rates for new buildings)”;

(ii)ar ôl “26A (primary energy consumption rates for new buildings),” mewnosoder “26B (fabric performance values for new dwellings),”;

(iii)ar ôl “36 (water efficiency of new dwellings),” mewnosoder “37A (provision of automatic fire suppression systems),”;

(b)ym mharagraff (1)(b) ar ôl “27A,” mewnosoder “27B,”;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) In a case where any requirement of Part L of Schedule 1 to the Principal Regulations is to be complied with by the insertion of insulating material into the cavity in a wall after that wall has been constructed, the approved inspector need not supervise the insertion of the insulating material but shall state in the final certificate whether or not at the date of that certificate the material has been inserted.

Rhan 4 (cymhwyso darpariaethau’r prif reoliadau)

21.  Yn rheoliad 20 (cymhwyso rheoliadau 20, 20A, 27, 29, 37, 41, 42, 43 a 44 o’r Prif Reoliadau)—

(a)yn y pennawd—

(i)hepgorer “20A,” a “29,”;

(ii)ar ôl “27A,” mewnosoder “27B,”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “20A (provisions applicable to third party certification schemes),”;

(ii)yn lle “27A (fabric energy efficiency rate calculations),” rhodder “27A (primary energy consumption rate calculations),”;

(iii)ar ôl “27A (primary energy consumption rate calculations),” mewnosoder “27B (fabric performance values calculations),”;

(iv)ar ôl paragraff (2A) mewnosoder—

(2B) Regulation 27B(3) of the Principal Regulations applies in relation to building work which is the subject of an initial notice as if after “work has been completed,” there were inserted “or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 17 of the Building (Approved Inspectors etc.) Regulations 2010 the initial notice ceases to be in force.

Atodlen 1 (ffurflenni)

22.  Yn Atodlen 1, yn lle ffurflenni 1 i 12 rhodder ffurflenni 1 i 12 fel y maent yn gymwys i adeiladau yng Nghymru ac eithrio adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru fel ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Atodlen 2 (y seiliau dros wrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio, neu dystysgrif planiau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol)

23.  Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 4 (gwybodaeth am y gwaith arfaethedig) hepgorer is-baragraffau (c) i (e);

(b)ym mharagraff 6 (yswiriant)—

(i)yn lle “6th April 2013” rhodder “8 June 2018”;

(ii)yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.

Atodlen 3 (y seiliau dros wrthod tystysgrif planiau, neu dystysgrif planiau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol)

24.  Yn Atodlen 3—

(a)hepgorer paragraff 2A (gofynion dewisol);

(b)ym mharagraff 6 (yswiriant)—

(i)yn lle “6th April 2013” rhodder “8 June 2018”;

(ii)yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”;

(iii)yn lle “described in the notice” rhodder “to which the certificate relates”.

Atodlen 4 (y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol)

25.  Yn Atodlen 4—

(a)hepgorer paragraff 2A (gofynion dewisol);

(b)ym mharagraff 5 (yswiriant)—

(i)yn lle “6th April 2013” rhodder “8 June 2018”; ac

(ii)yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.

Atodlen 5 (y seiliau dros wrthod hysbysiad corff cyhoeddus, neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei gyfuno â thystysgrif planiau)

26.  Ym mharagraff 4 o Atodlen 5 (gwybodaeth am y gwaith arfaethedig) hepgorer is-baragraffau (c) i (e).

Atodlen 6 (y seiliau dros wrthod tystysgrif planiau corff cyhoeddus, neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei gyfuno â thystysgrif planiau)

27.  Yn Atodlen 6 hepgorer paragraff 2A (gofynion dewisol).

Atodlen 7 (y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol corff cyhoeddus)

28.  Yn Atodlen 7 hepgorer paragraff 2A (gofynion dewisol).

(1)

O.S. 2010/2215; yr offerynnau diwygio perthnasol mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru yw O.S. 2012/3119, 2013/1959, 2014/579, 2015/767 a 2016/285, ac mewn perthynas ag adeiladau eraill yng Nghymru yw O.S. 2013/747 (Cy. 89), 2013/2730 (Cy. 264), 2014/58 (Cy. 5) a 2016/611 (Cy. 168).