- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru (“Cynllun 1992”); Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007); Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007) (“Cynllun Digolledu 2007”) a Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.
Mae erthygl 2 yn diwygio Cynllun 1992, yn benodol, er mwyn darparu bod priod neu bartner sifil sy’n goroesi diffoddwr tân a fu farw o ganlyniad i anaf a gafwyd wrth gyflawni dyletswydd, neu wrth deithio i gyflawni dyletswydd neu o’i chyflawni, i gadw ei hawlogaeth i bensiwn neu arian rhodd o dan Ran C o Gynllun 1992 os yw’n priodi, yn ailbriodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu bartneriaeth sifil ddilynol ar 1 Ebrill 2015 neu wedi hynny. Mae hefyd yn darparu bod pensiwn neu arian rhodd a dynnwyd yn ôl am y rhesymau hyn cyn 1 Ebrill 2015 yn cael ei adfer gydag effaith o’r dyddiad hwnnw. Mae erthygl 2 hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Gynllun 1992 nad ydynt yn gysylltiedig, gan gynnwys er mwyn egluro, o dan Ran G o Gynllun 1992, fod diffoddwr tân o dan 50 oed sydd wedi cyfrif 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy yn cael ei drin fel cyflogai i’r awdurdod tân ac achub at ddibenion cyfraniadau blynyddol y cyflogwr, a phan fo diffoddwr tân o’r fath wedi trefnu ar gyfer buddion pensiwn ychwanegol bod rhaid i’r diffoddwr tân dalu cyfraniadau mewn perthynas â’r rhain hyd nes y bydd y diffoddwr tân yn cyrraedd 50 oed. Pan fo’r diffoddwr tân yn cyrraedd 50 oed bydd y gofynion yn rheol G2(1) o Gynllun 1992 yn gymwys i’r diffoddwr tân. Yn gysylltiedig â hyn, mae erthygl 5 yn diwygio’r ddarpariaeth drosiannol a wneir gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016 i’w gwneud yn glir nad yw taliadau a wneir gan awdurdod tân ac achub o dan y ddarpariaeth honno yn cynnwys unrhyw swm mewn cysylltiad â chyfraniad diffoddwr tân mewn perthynas â budd pensiwn ychwanegol.
Mae erthygl 3 yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) er mwyn cael gwared ar y gofyniad bod rhaid i bartner sy’n cyd-fyw sy’n goroesi fod wedi ei enwebu gan yr aelod o’r cynllun fel amod cymhwystra ar gyfer pensiwn goroeswr. Mae erthygl 3 hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i’r Cynllun hwnnw nad ydynt yn gysylltiedig er mwyn cywiro gwallau mewn croesgyfeiriadau.
Mae erthygl 4(3) yn dirymu rheol 5 o Ran 3 o Gynllun Digolledu 2007 er mwyn caniatáu, gydag effaith o 1 Ebrill 2015, i berson sydd â’r hawl i bensiwn neu arian rhodd o dan y cynllun hwnnw ei gadw ar ôl priodi, ailbriodi, neu ffurfio partneriaeth sifil neu bartneriaeth sifil ddilynol. Mae pensiynau neu arian rhodd a dynnwyd yn ôl cyn 1 Ebrill 2015 am y rhesymau hyn yn cael eu hadfer gydag effaith o’r dyddiad hwnnw.
Roedd Cynllun Digolledu 2007 yn disodli’r darpariaethau cyfatebol yng Nghynllun 1992. Mae erthygl 4(2) yn diwygio’r trefniadau trosiannol yn erthygl 4 o Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 fel y bydd darpariaeth gyfatebol yn gymwys i ddyfarndaliadau arbennig a dyfarndaliadau mwy o dan reol C2 neu C3 o Gynllun 1992 sy’n ymwneud â dyfarniadau neu benderfyniadau a wnaed cyn 1 Ebrill 2006 sy’n berthnasol i ba un a yw anaf cymwys wedi peri marwolaeth (yn rhinwedd erthygl 4(1) o’r Gorchymyn hwnnw mae Cynllun 1992 ar y ffurf yr oedd yn bodoli yn union cyn 1 Ebrill 2006 yn parhau i gael effaith o dan yr amgylchiadau hyn).
Mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 3(2) i (7) a (9) o’r Gorchymyn hwn yn cael effaith o 6 Ebrill 2006, mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 2(4)(b) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006, mae’r diwygiad a wneir gan erthygl 5 yn cael effaith o 31 Rhagfyr 2016; mae’r diwygiadau eraill yn cael effaith o 1 Ebrill 2015. Rhoddir y pŵer i roi effaith ôl-weithredol i’r Gorchymyn hwn, mewn cysylltiad â Chynllun 1992, gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno ac, mewn cysylltiad â Chynllun Digolledu 2007 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), gan adran 34(3) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys