xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
22 Mai 2018
Yn dod i rym
30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 bellach wedi’u breinio ynddynt(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny:
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion, “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), ac Atodlen 11 iddi, yn breinio’r swyddogaethau hyn yng Ngweinidogion Cymru.