Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Hysbysiadau Stop

Hysbysiadau stop

9.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).

(2“Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—

(a)bod y person yn ymgymryd â’r gweithgarwch;

(b)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac

(c)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.

(4Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—

(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch;

(b)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac

(c)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.

(5Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).

Cynnwys hysbysiad stop

10.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad;

(b)y camau y mae’n rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;

(c)hawliau i apelio; a

(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

Apelau yn erbyn hysbysiadau stop

11.—(1Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)unrhyw reswm arall.

Tystysgrifau cwblhau

12.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).

(2Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a chyflwyno hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau

13.  Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Digollediad

14.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am y golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os—

(a)caiff hysbysiad stop ei dynnu yn ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;

(b)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu

(c)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

Apêl yn erbyn penderfyniad digollediad

15.  Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad—

(a)ar y seiliau bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;

(b)ar y seiliau bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir;

(c)am unrhyw reswm arall.

Trosedd

16.—(1Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 12 mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.

(2Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at 12 mis i’w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill