- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
39. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 40 ac 41.
40. Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol), ym mharagraff (1)—
(a)yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn paragraff 5” rhodder “o fewn paragraffau 4A a 5”;
(b)yn is-baragraff (c), yn lle “o fewn paragraffau 5 a 9” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5 a 9.”
41. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac
“ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(ii)yn lle’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” rhodder—
“ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P”)—
sydd—
wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(2) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(3)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;”;
(b)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
4A.—(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(c)ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—
(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”;
(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—
“(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—
“(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”; a
(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
42. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 43 i 45.
43. Yn rheoliad 3—
(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac
“ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(b)yn lle paragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, rhodder—
“(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(5) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
44. Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—
“(9A) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod a ganiateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw gais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(6) yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
45. Yn Atodlen 1—
(a)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid) mewnosoder—
4A.—(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(b)ym mharagraff 5—
(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—
“(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—
“(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
46. Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 47 i 49.
47. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8);”; ac
“ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(9);”;
(b)yn y diffiniad o “cwrs penben”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “ neu reoliad 2(1) o Reoliadau 2017”;
(c)yn y diffiniad o “cwrs blaenorol”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “, cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017”; a
(d)yn lle’r diffiniad o “cwrs sengl” rhodder—
“ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs—
y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;
y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2017 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw; neu
y mae rheoliad 6(4) o Reoliadau 2018 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn rheoliad 6(3) o Reoliadau 2018.”
48. Yn rheoliad 4 (disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—
(a)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(b)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(c)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2018 oherwydd ei fod yn berson y mae Eithriad 3, paragraff (a), Eithriad 4, Eithriad 5 neu Eithriad 6 a restrir yn rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo; neu
(d)person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).”
49. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1(1)—
(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac
“ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(ii)yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—
“(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(10) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”; a
(b)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—
4A.—(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(c)ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—
(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”;
(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—
“(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—
“(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; a”; a
(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
50. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(11) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 51 i 53.
51. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac
“ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(b)yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—
“(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(12) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
52. Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ym mharagraff (b), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
53. Yn Atodlen 1—
(a)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
4A.—(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn blwyddyn gyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(b)ym mharagraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—
“(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—
“(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
54. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(13) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 55 a 56.
55. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—
“(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(14) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
56. Yn Atodlen 1, paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(b)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—
“(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(c)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—
“(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(d)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
O.S. 2007/2310 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101) ac O.S. 2011/1978 (Cy. 218); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc.) 2004, Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 19, O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.
Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
Gweler “Appendix AR: administrative review”.
O.S. 2015/1484 (Cy. 163), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/276 (Cy. 100).
Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
O.S. 2017/523 (Cy. 109), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169) ac O.S. 2018/277 (Cy. 53).
Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
Mae paragraff 376BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys