xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
18 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym
15 Awst 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018(1).
Yn unol ag adran 18(4) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Awst 2018.
2. Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn adran 173(1)(b) yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”; ac
(b)yn adran 173(7) hepgorer “9 or”.
3. Yn adran 40 o Ddeddf Tai 1996(3) hepgorer is-adran (5).
4. Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheol 95, hepgorer paragraff (2)(d);
(b)yn rheol 183A, hepgorer paragraff (1); ac
(c)yn Atodlen 4—
(i)yn ffurflen X—
(aa)yn y pennawd, hepgorer “81 or”;
(bb)yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”;
(cc)hepgorer “section 81 of that Act or”;
(ii)hepgorer ffurflen KK.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n deillio o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol er mwyn diweddaru croesgyfeiriadau at “gwarediadau esempt” o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan y Ddeddf ac o ganlyniad i ddiddymu’r gofynion i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i weithgareddau penodol a wneir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan y Ddeddf.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003 (O.S. 2003/1417) o ganlyniad i ddiddymu’r gofynion i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i weithgareddau penodol a wneir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan y Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.