Rheoliad 6(a)
ATODLEN 2Monitro ar gyfer TSE a chymeradwyo labordai
Danfon corff anifail buchol at ddiben monitro
1.—(1) At ddiben monitro o dan Erthygl 6, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu o dan ei reolaeth, y mae’n rhaid ei brofi ar gyfer BSE yn unol â phwynt 3.1 o Ran I o Bennod A o Atodiad III (a ddarllenir ar y cyd ag Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC), oni chyfarwyddir ef yn wahanol gan Weinidogion Cymru—
(a)o fewn 24 o oriau i farwolaeth yr anifail, gwneud trefniadau gyda pherson arall i’r person hwnnw gasglu’r corff a’i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd neu i un o ganolfannau ymchwilio milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA); neu
(b)o fewn 72 o oriau i farwolaeth yr anifail, danfon y corff yn uniongyrchol i safle samplu a gymeradwywyd neu un o ganolfannau ymchwilio milfeddygol APHA sydd â pherson wedi ei hyfforddi ar gael i gymryd sampl o’r corff,
ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
(2) Rhaid i berson y gwneir trefniadau ag ef ar gyfer danfon corff at ddibenion is-baragraff (1), oni chyfarwyddir ef yn wahanol gan Weinidogion Cymru—
(a)canfod y safle neu’r ganolfan a fydd yn ymgymryd â’r samplu; a
(b)sicrhau ei fod yn cael ei ddanfon i’r safle hwnnw neu’r ganolfan honno fel ei fod yn cyrraedd yno o fewn 72 o oriau,
ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
(3) Mae’r cyfnodau o 24 a 72 o oriau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yn cychwyn ar yr adeg pan ganfuwyd bod yr anifail wedi marw neu wedi ei ladd.
(4) Perchennog yr anifail buchol marw sy’n gyfrifol am y gost y mae gweithredwr y safle samplu yn mynd iddi er mwyn ymgymryd â’r samplu.
(5) Os oes gan berchennog yr anifail buchol marw unrhyw anfoneb sy’n daladwy i weithredwr y safle samplu sydd heb ei thalu, caiff y gweithredwr hwnnw wrthod derbyn unrhyw anifeiliaid byw neu farw gan y perchennog hwnnw hyd nes y bydd unrhyw anfoneb sydd heb ei thalu wedi ei thalu.
Difa heb samplu
2. Mae unrhyw berson sy’n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1 yn gymwys iddo cyn iddo gael ei ddanfon ar gyfer samplu at ddibenion y paragraff hwnnw, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni trosedd.
Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol (safleoedd samplu a gymeradwywyd)
3. Rhaid i feddiannydd safle samplu a gymeradwywyd y mae anifail y mae’n rhaid ei brofi ar gyfer BSE wedi ei anfon iddo yn unol â pharagraff 1—
(a)cymryd sampl o goesyn yr ymennydd i’w phrofi yn unol â Phennod C o Atodiad X;
(b)sicrhau y gellir adnabod yr anifail (neu bob rhan ohono) y cymerwyd y sampl ohono;
(c)trefnu i’r sampl gael ei danfon i labordy profi a gymeradwywyd; a
(d)cadw corff yr anifail hyd nes y ceir canlyniadau profion a’i waredu yn unol â Rhan I o Bennod A o Atodiad III,
ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol (lladd-dai)
4.—(1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy neu fan cigydda arall y cigyddir neu y prosesir ynddo anifail buchol y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—
(a)cymryd sampl, neu wneud trefniadau i sampl gael ei chymryd, o goesyn yr ymennydd i’w phrofi yn unol â Phennod C o Atodiad X;
(b)sicrhau y gellir adnabod yr anifail (neu bob rhan ohono) y cymerwyd y sampl ohono; ac
(c)trefnu i’r sampl gael ei danfon i labordy profi a gymeradwywyd,
ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i anifail buchol—
(a)a aned mewn gwlad nad yw wedi ei rhestru yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC ac sy’n dod o fewn pwynt 2 o Bennod A o Atodiad III; neu
(b)sy’n dod o fewn pwynt (b) o baragraff 1 o Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd lladd-dy neu fan cigydda arall yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd sampl o unrhyw anifail buchol a gigyddir yno a’i hanfon i’w phrofi fel sy’n ofynnol gan is-baragraff (1).
Cymeradwyo labordai profi
5.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, os gwneir cais, gymeradwyo labordai i brofi samplau at ddibenion Pennod C o Atodiad X os ydynt wedi eu bodloni—
(a)y bydd y labordy yn cynnal y profion yn unol â Phennod C o’r Atodiad hwnnw;
(b)bod gan y labordy weithdrefnau digonol ar gyfer rheoli ansawdd; ac
(c)bod gan y labordy weithdrefnau digonol i sicrhau adnabyddiaeth gywir o’r samplau ac i hysbysu’r lladd-dy sy’n eu traddodi a Gweinidogion Cymru ynghylch canlyniadau’r profion.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “labordy profi a gymeradwywyd” (“approved testing laboratory”) yw—
(a)labordy a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn;
(b)labordy a gymeradwywyd o dan ddeddfwriaeth gyfatebol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig;
(c)unrhyw labordy cyfeirio cenedlaethol y cyfeirir ato yn Atodiad X neu labordy cyfeirio yr UE y cyfeirir ato yn yr Atodiad hwnnw; neu
(d)labordy diagnostig a gymeradwywyd gan Aelod-wladwriaeth yn unol ag Atodiad X.
Safleoedd samplu a gymeradwywyd
6.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, os gwneir cais, gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid yn unol â’r Rheoliadau hyn os ydynt wedi eu bodloni bod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol, gan gynnwys person wedi ei hyfforddi sydd ar gael i ymgymryd â’r samplu.
(2) Ystyr “safle samplu a gymeradwywyd” (“approved sampling site”) yn yr Atodlen hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â samplu at yr un diben.
Cadw cynhyrchion a’u gwaredu
7.—(1) Pan fo’n ofynnol samplu unrhyw anifail buchol at ddibenion paragraff 4, rhaid i feddiannydd y lladd-dy neu fan cigydda arall, yn unol â Rhan I o Bennod A o Atodiad III a hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol, naill ai—
(a)cadw’r carcas a phob rhan o gorff yr anifail y cymerwyd sampl ohono (ac eithrio’r croen pan fo is-baragraff (2) yn gymwys) i’w gwaredu yn unol â’r Rhan honno os bydd y canlyniad yn bositif neu’n amhendant; neu
(b)gwaredu’r carcas a phob rhan o gorff yr anifail y cymerwyd sampl ohono (gan gynnwys y gwaed a’r croen) yn unol â’r Rhan honno.
(2) Pan fo croen neu lwyth o grwyn wedi ei farcio fel y gellir adnabod ei fod yn dod o anifail y cymerwyd sampl ohono, caniateir traddodi’r croen neu’r llwyth o grwyn i farchnad ledr neu danerdy a rhaid i feddiannydd y farchnad ledr neu’r tanerdy, hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol, naill ai—
(a)cadw’r croen neu’r llwyth o grwyn i’w waredu yn unol â Rhan 1 o Bennod A o Atodiad III os bydd y canlyniad yn bositif neu’n amhendant; neu
(b)gwaredu’r croen neu’r llwyth o grwyn yn unol â’r Rhan honno.
(3) Pan geir canlyniad positif neu amhendant ar gyfer anifail y cymerwyd sampl ohono, rhaid i feddiannydd lladd-dy neu fan cigydda arall waredu’r canlynol ar unwaith—
(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a’r croen), a
(b)oni bai bod rhanddirymiad wedi ei roi o dan is-baragraff (6), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu’r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a’r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â Rhan I o Bennod A o Atodiad III.
(4) Os nad oes unrhyw sampl wedi ei anfon at labordy profi a gymeradwywyd, neu nad yw labordy profi a gymeradwywyd wedi cael sampl, yn unol â pharagraff 5, neu os ceir canlyniad prawf annigonol, mewn cysylltiad ag anifail y mae’n ofynnol iddo gael ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r meddiannydd waredu’r canlynol ar unwaith—
(a)carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) yr anifail hwnnw, a
(b)oni bai bod rhan-ddirymiad wedi ei roi o dan is-baragraff (6), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed ond nid croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu’r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a’r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â Rhan 1 o Bennod A o Atodiad III ac at ddibenion yr is-baragraff hwn ystyr “canlyniad prawf annigonol” (“insufficient test result”) yw ardystiad gan labordy a gymeradwywyd nad oedd y sampl a anfonwyd at y labordy o safon ddigonol neu nad oedd digon ohoni i gael canlyniad prawf.
(5) Os ceir canlyniad dim prawf mewn cysylltiad ag anifail y mae’n ofynnol iddo gael ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r meddiannydd waredu carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) yr anifail hwnnw ar unwaith, yn unol â Rhan 1 o Bennod A o Atodiad III; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn ystyr “canlyniad dim prawf” (“no-test result”) yw canlyniad negyddol o sampl yn dilyn profi lluosog a chyflym pan fo labordy profi a gymeradwywyd wedi ardystio fod profi o’r fath yn angenrheidiol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, roi rhanddirymiad o’r gofyniad i ddifa carcasau eraill ar y llinell gigydda pan fônt wedi eu bodloni bod y lladd-dy yn gweithredu system sy’n atal halogi rhwng carcasau.
(7) Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn cyflawni trosedd.
Samplu ar gyfer TSE mewn anifeiliaid defeidiog, gafraidd a charwaidd
8.—(1) Pan fo unrhyw anifail defeidiog neu afraidd wedi ei ddewis ar gyfer samplu at ddibenion Rhan II o Bennod A o Atodiad III, rhaid i feddiannydd lladd-dy neu fan cigydda arall, yn unol â’r Rhan honno a hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol, naill ai—
(a)cadw’r carcas a phob rhan o’r corff (ac eithrio’r croen pan fo is-baragraff (2) yn gymwys) i’w gwaredu yn unol â’r Rhan honno os bydd y canlyniad yn bositif neu’n amhendant; neu
(b)gwaredu’r carcas a phob rhan o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) yn unol â’r Rhan honno.
(2) Pan fo croen neu lwyth o grwyn wedi ei farcio fel y gellir adnabod ei fod yn dod o anifail y cymerwyd sampl ohono, caniateir traddodi’r croen neu’r llwyth o grwyn i farchnad ledr neu danerdy a rhaid i feddiannydd y farchnad ledr neu’r tanerdy, hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol, naill ai—
(a)cadw’r croen neu’r llwyth o grwyn i’w waredu yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad III os bydd y canlyniad yn bositif neu’n amhendant; neu
(b)gwaredu’r croen neu’r llwyth o grwyn yn unol â’r Rhan honno.
(3) Pan fo—
(a)anifail defeidiog, gafraidd neu garwaidd wedi marw, neu wedi ei ladd, ac eithrio ar gyfer ei fwyta gan bobl; a
(b)naill ai—
(i)y digwyddodd y farwolaeth neu’r lladd mewn mangre a gymeradwywyd, neu y mae’n ofynnol ei chymeradwyo, o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009; neu
(ii)yr aethpwyd â charcas yr anifail defeidiog, gafraidd neu garwaidd i’r fangre honno,
rhaid i feddiannydd y fangre gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol samplu’r carcas yn y fangre.
(4) Pan fo unrhyw anifail carwaidd wedi ei ddewis i’w fonitro ar gyfer TSE yn unol â Rhan III o Bennod A o Atodiad III, rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy—
(a)cadw’r carcas a phob rhan o gorff yr anifail y cymerwyd sampl ohono (gan gynnwys y gwaed a’r croen) hyd nes y ceir canlyniad y prawf; a
(b)os bydd y canlyniad yn bositif, gwaredu’r carcas a phob rhan o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) ar unwaith yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad III.
(5) Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn cyflawni trosedd.
Digolledu
9.—(1) Os yw canlyniad prawf am TSE yn bositif ar anifail a gigyddwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl, rhaid i Weinidogion Cymru dalu digollediad i feddiannydd y lladd-dy neu’r man cigydda arall am y carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen)—
(a)yr anifail hwnnw; a
(b)yn achos anifail buchol sy’n cael ei ddifa oherwydd y canlyniad positif hwnnw, yr anifail a oedd yn ei union ragflaenu ar y llinell gigydda a’r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi rhanddirymiad o dan baragraff 7(6).
(2) Y digollediad yw’r gwerth ar y farchnad, ac os na ellir cytuno ar y gwerth ar y farchnad rhaid pennu’r prisiad yn unol â’r weithdrefn a osodir yn rheoliad 12(3) i (7) (gan ddarllen y gair “meddiannydd” ym mha le bynnag y crybwyllir “perchennog” yn y paragraffau hynny), gyda’r meddiannydd yn talu unrhyw ffi a godir ynglŷn â’r prisio.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), y gwerth ar y farchnad yw’r pris y disgwylid yn rhesymol bod wedi ei gael am yr anifail gan brynwr ar y farchnad agored ar yr adeg y’i prisiwyd, a hynny gan ragdybio nad oedd yr anifail wedi ei effeithio gan TSE.