xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ynni, Cymru
Gwnaed
4 Medi 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Medi 2018
Yn dod i rym
1 Hydref 2018
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “atal ffynnon dros dro” (“well suspension”) yw atal defnyddio ffynnon dros dro fel y gellir ei hailddefnyddio at ddiben drilio neu waith arall;
ystyr “cynnig ardal ddatblygu” (“development area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio’r lleoliadau daearyddol o fewn maes petrolewm pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gwaith datblygu a chynhyrchu gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, cynllun sy’n nodi’r gweithgareddau i’w gwneud;
ystyr “cynnig ardal gadw” (“retention area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio lleoliadau daearyddol pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gweithgareddau fforio a gwerthuso;
mae “ffynnon” (“well”) yn cynnwys twll turio;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sydd wedi ei benodi’n weithredwr gosod, yn weithredwr ffynnon neu’r ddau;
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu’n ysgrifenedig;
ystyr “rhaglen ddatblygu a chynhyrchu” (“development and production programme”) yw rhaglen a gyflwynir yn unol â thrwydded petrolewm sy’n nodi’r mesurau y cynigir eu cymryd mewn cysylltiad â datblygu a chynhyrchu maes petrolewm;
ystyr “rhaglen waith” (“work programme”) yw rhaglen sydd wedi ei nodi mewn atodlen i drwydded petrolewm sy’n nodi’r archwiliadau sydd i’w cynnal yn ystod y tymor cychwynnol, gan gynnwys unrhyw arolwg daearegol drwy unrhyw ddull ffisegol neu gemegol ac unrhyw brofion drilio;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ceisiadau) 2015(3);
mae i “trwydded datblygu a fforio petrolewm” yr ystyr a roddir i “petroleum exploration and development licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded draenio methan” yr ystyr a roddir i “methane drainage licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded fforio petrolewm tua’r tir” yr ystyr a roddir i “landward petroleum exploration licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
ystyr “trwydded petrolewm” (“petroleum licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 3 o Ddeddf Petrolewm 1998 (chwilio am betrolewm, ei durio a chael gafael arno) neu o dan adran 2 o Ddeddf Petrolewm (Cynhyrchu) 1934 (trwyddedau i chwilio am betrolewm a chael gafael arno)(4); ac
ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw deiliad trwydded petrolewm.
3. Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded petrolewm a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Math o drwydded | Y ffi sy’n daladwy |
---|---|
Trwydded fforio petrolewm tua’r tir | £500 |
Trwydded draenio methan | £50 |
Trwydded datblygu a fforio petrolewm | £1,400 |
4.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu dalu ffi.
(2) Mae swm y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn cael ei bennu gan y fformiwla—
pan fo—
A yn nifer y diwrnodau; a
B yn nifer y swyddogion
sy’n ofynnol er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch y cais.
(3) Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “swyddog” (“officer”) yw person a gymerir ymlaen gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, i gyflawni’r swyddogaeth y mae’r ffi berthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hi.
5.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu dalu ffi o £1068 os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad.
(2) Rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
6.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer gweithgaredd neu fater a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) ar adeg gwneud y cais, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(3) Mewn perthynas â’r gweithgareddau a restrir ym mharagraff (4), rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4) Mae’r gweithgareddau fel a ganlyn—
(a)cais am gydsyniad i estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm;
(b)cais am gydsyniad i ddiwygio rhaglen waith.
Gweithgaredd neu fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer | Y ffi sy’n daladwy |
---|---|
Drilio prif ffynnon | £729 |
Drilio ffynnon ddargyfeirio sy’n fforchio o’r brif ffynnon i leoliad targed gwahanol i’r brif ffynnon | £596 |
Gosod neu ailosod offer mewn ffynnon at ddiben galluogi cynhyrchu neu chwistrellu hydrocarbon | £566 |
Cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig | £1,052 |
Newid cydsyniad er mwyn cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig | £1,052 |
Llosgi neu awyru petrolewm o ffynnon | £765 |
Newid cydsyniad i losgi neu awyru petrolewm o ffynnon | £765 |
Atal ffynnon dros dro | £596 |
Ailddechrau defnyddio unrhyw ffynnon sydd wedi ei hatal dros dro | £566 |
Cefnu ar ffynnon yn barhaol | £566 |
Newid trwyddedai trwydded petrolewm | £401 |
Newid y buddiolwr hawliau a roddir gan drwydded petrolewm | £401 |
Penodi gweithredwr o dan drwydded petrolewm | £1,201 |
Estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm | £1,000 |
Diwygio rhaglen waith | £1,000 |
7.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am benderfyniad o dan Atodlen 1 i Ddeddf Trethu Olew 1975(5) (pennu meysydd olew) dalu ffi o £1,124.
(2) Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
8.—(1) Rhaid i ffi sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei thalu yn y fath fodd ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu.
(2) Nid yw ffi wedi ei thalu o dan y Rheoliadau hyn hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael swm cyfan y ffi mewn arian cliriedig.
(3) Mae ffi sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn yn adferadwy fel dyled sifil.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd mewn cysylltiad â chais iddynt am drwydded petrolewm o dan Ddeddf Petrolewm 1998 ac ar gyfer cydsyniadau sy’n ofynnol o dan y trwyddedau hynny ar gyfer gweithgareddau a materion amrywiol a restrir.
Mae rheoliadau 1 a 2 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
Mae rheoliad 3 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais am drwydded o dan adran 4 o Ddeddf Petrolewm 1998.
Mae rheoliad 4 yn nodi fformiwla ar gyfer pennu’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu. Mae rheoliad 5 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu ardal ddatblygu. Mae rheoliad 6 yn nodi’r ffioedd penodedig sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer nifer o weithgareddau a restrir. Mae rheoliad 7 yn nodi’r ffi sy’n daladwy wrth wneud cais i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch maes olew.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 17. Diwygiwyd adran 4 gan baragraff 15 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Mae diwygiadau eraill i adran 4 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2004 p. 20. Diwygiwyd adran 188 gan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017. Diwygiwyd adran 192 gan baragraff 60 o’r Atodlen honno. Mae diwygiadau eraill i adrannau 188 a 192 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/766, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/912 ac O.S. 2018/56; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
1934 p. 36. Diddymwyd y Ddeddf hon gan Ddeddf Petrolewm 1998 ond heb ragfarn i unrhyw hawl a roddwyd gan drwydded a oedd mewn grym yn union cyn cychwyn y Ddeddf honno, gweler paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.
1975 p. 22. Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 20 o Ran 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017. Mae diwygiadau eraill i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.