xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
18 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Cychwyn Rhif 1) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. 1 Medi 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a)adrannau 1 i 19;
(b)adrannau 21 i 29;
(c)Atodlen 1; a
(d)Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 1 Medi 2019. Daw adrannau 30 ac 31 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.