xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(1) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
O.S. 2014/3037 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).