Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
(1)
O.S. 2017/523 (Cy. 109), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712O.S. 2018/277 (Cy. 53), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i ( 5)) ac O.S. 2019/895 (Cy. 161).