xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
28 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), ac atal ac adfer difrod amgylcheddol(3).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso rheoliadau 3 a 4, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.
2. Ar ôl rheoliad 18 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(5) mewnosoder—
18A.—(1) Pan fo awdurdod gorfodi wedi cyflwyno hysbysiad i weithredwr cyfrifol o dan reoliad 18(1) ar ôl i’r rheoliad hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod gorfodi hysbysu Gweinidogion Cymru am y difrod amgylcheddol perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
(2) Rhaid i’r hysbysiad a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y math o ddifrod amgylcheddol, yn unol â’r categorïau a nodir yn rheoliad 4(1)(a) i (d),
(b)y dyddiad y digwyddodd y difrod amgylcheddol neu y cafodd ei ddarganfod, ac
(c)y gweithgaredd a achosodd y difrod amgylcheddol, yn unol â’r rhestr a nodir yn Atodlen 2, ac eithrio mewn achosion pan fo rheoliad 5(2) yn gymwys.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ddarparu unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â’r difrod amgylcheddol y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani.”
3.—(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(6)(a), ar ôl “unrhyw ddarpariaeth yn y” mewnosoder “Rheoliad Sengl CMO neu”.
(3) Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a)yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—
“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau deor a chywion”;
(b)yn y cofnod yng ngholofn 2, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan C o Atodiad XIV iddo,” rhodder “Rhan C o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”.
(4) Yn Atodlen 2, Rhan 1—
(a)yn lle pennawd y tabl rhodder—
(b)yn y tabl—
(i)yn lle’r pennawd yng ngholofn 1 rhodder—
“Y ddarpariaeth berthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 neu pan nodir hynny, y Rheoliad Sengl CMO”;
(ii)ym mhennawd colofn 2, yn lle “gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013” rhodder “gyda’r darpariaethau”;
(iii)yn rhes 1, yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—
“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau”.
(5) Yn Atodlen 3, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhes 3, rhodder—
“Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o Ran D o Atodiad II iddo, Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, i’r graddau y maent yn ymwneud ag wyau Dosbarth B”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a)yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—
“Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl, i’r graddau y mae’r ddarpariaeth honno yn ymwneud â marchnata cig dofednod”;
(b)yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—
“Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd a bwyd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”). Mae’r diwygiadau’n ymwneud â gweithredu Erthygl 3 o Reoliad (EU) 2019/1010 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni rhwymedigaethau adrodd ym maes deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd (OJ Rhif L 170, 25.6.2019, t. 115). Mae Rheoliad (EU) 2019/1010 yn diwygio Erthygl 18 o Gyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56), ac yn disodli Atodiad 6 iddi. Mae rheoliad 2 yn mewnosod darpariaeth newydd yn Rheoliadau 2009 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gorfodi roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag achosion o ddifrod amgylcheddol i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1671 (Cy. 158)) (“Rheoliadau 2010”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i wyau deor, cywion dofednod buarth fferm, ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae rheoliad 3(2) i (5) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2010.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1719 (Cy. 195)) (“Rheoliadau 2011”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i gig dofednod. Mae rheoliad 4(2) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2011.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).
O.S. 2009/995 (Cy. 81), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1394 (Cy. 138). Mae diwygiadau presennol a rhagolygol eraill nad ydynt yn berthnasol.
O.S. 2010/1671 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae O.S. 2010/1671 (Cy. 158) wedi ei ddiwygio hefyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137) a daw’r diwygiadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2011/1719 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae O.S. 2011/1719 (Cy. 195) wedi ei ddiwygio hefyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137) a daw’r diwygiadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.