xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
27 Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Tachwedd 2019
Yn dod i rym
14 Rhagfyr 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag—
(a)mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath(2);
(b)mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd(3);
(c)mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(4).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i—
(a)unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(5) at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, a
(b)unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(6) at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn,
gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.
O.S. 2005/1971. Mae’r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2006/31 (Cy. 5), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2010/893 (Cy. 92), O.S. 2012/1765 (Cy. 225), O.S. 2013/479 (Cy. 55), O.S. 2013/3007 (Cy. 298), O.S. 2013/3049 (Cy. 308), O.S. 2014/1858 (Cy. 192), O.S. 2016/845 (Cy. 214) a ac O.S. 2018/806 (Cy. 162). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185).
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/2652 (Cy. 220), O.S. 2011/626 (Cy. 90), O.S. 2011/1043, O.S. 2013/479 (Cy. 55), O.S. 2013/3007 (Cy. 298), O.S. 2013/3049 (Cy. 308), O.S. 2014/2714 (Cy. 271), O.S. 2016/386 (Cy. 120), O.S. 2016/387 (Cy. 121), O.S. 2018/40 (Cy. 12), O.S. 2018/806 (Cy. 162), O.S. 2018/968 (Cy. 195) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ac O.S. 2019/1046 (Cy. 185).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).