xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gytuno i leoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai bod y darparwr wedi penderfynu bod lleoliad addas a all ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth a galluogi’r plentyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth y plentyn,
(b)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(c)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn,
(d)unrhyw risgiau i lesiant y plentyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant unrhyw blentyn arall y gall y lleoliad sydd i’w wneud effeithio arno,
(f)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn, ynghyd â’i gyfeiriadedd rhywiol a’i hunaniaeth o ran rhywedd,
(g)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth y plentyn gael eu diwallu,
(h)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.
(4) Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys—
(a)y plentyn, pan fo’n ymarferol,
(b)rhieni’r plentyn, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,
(c)yr awdurdod lleoli.