Hysbysiadau
40.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r plentyn wedi ei leoli yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r heddlu am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3.
(6) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(7) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(8) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.