Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

O dan adran 178(4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau i helpu plant a phobl ifanc sydd am gyflwyno sylwadau. Mae hyn yn gymwys i sylwadau gan blant a phobl ifanc ynghylch ystod o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau o bersonau na chânt, o dan drefniadau’r awdurdod lleol, ddarparu cynhorthwy i’r plentyn neu’r person ifanc.

Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc am gyflwyno sylwadau, mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli a rhoi cymorth i gael cynhorthwy eiriolwr.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fonitro ei gydymffurfedd â’r gofynion hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.