Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwasanaethau cymorth mabwysiadu

3.—(1At ddibenion adran 2(6)(b) o Ddeddf 2002 mae’r gwasanaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi fel gwasanaethau cymorth mabwysiadu—

(a)cynhorthwy i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant geni neu berson perthynol i’r plentyn mabwysiadol;

(b)gwasanaethau y gellir eu darparu mewn perthynas ag anghenion therapiwtig plentyn mewn perthynas â mabwysiadu’r plentyn;

(c)cynhorthwy at ddiben sicrhau bod y berthynas rhwng plentyn a rhiant mabwysiadol y plentyn yn parhau, gan gynnwys—

(i)hyfforddiant ar gyfer y rhiant mabwysiadol at ddiben diwallu unrhyw anghenion arbennig y plentyn sy’n codi o’r mabwysiad hwnnw, a

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gofal seibiant;

(d)cynhorthwy pan amharwyd ar drefniant neu leoliad mabwysiadu neu pan fo perygl y bydd hynny yn digwydd, gan gynnwys—

(i)cyfryngu, a

(ii)trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod achosion o amharu ar fabwysiadau neu leoliadau;

(e)cynhorthwy i bersonau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’u perthnasau;

(f)cynhorthwy i berthnasau personau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’r person mabwysiedig;

(g)gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni geni neu gyn-warcheidwaid plentyn mabwysiadol i drafod materion sy’n ymwneud â mabwysiadu.

(2At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ystyr “perthynas” yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn i’r person mabwysiedig drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas.

(3At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), rhaid i ofal seibiant sy’n darparu llety fod yn llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989(2).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill