xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 RHif 291 (Cy. 69)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019

Gwnaed

17 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Chwefror 2019

Yn dod i rym

29 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1) a (3), a 10 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2);

ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

(a)

cyngor sir yn Lloegr,

(b)

cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,

(c)

cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

(d)

Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(3);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn, i weithredu ar ran yr unigolyn;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaeth mabwysiadu’r awdurdod lleol;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol ag Atodlen 1 ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ef;

ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir yn adran 67(3) o Ddeddf 2016;

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw gwasanaeth mabwysiadu’r awdurdod lleol;

ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(5);

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol” (“local authority adoption service”) yw cyflawni’r swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf o wneud trefniadau neu gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer mabwysiadu plant neu ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu;

mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support services” yn adran 2(6) o’r Ddeddf a’r ystyr a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(6);

mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol fel y’u diffinir yn adran 3(1)(b) o Ddeddf 2016;

mae i “rheolwr gofal cymdeithasol” (“social care manager”) yr ystyr a roddir yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2016;

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)

personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)

personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

ystyr “unigolyn” (“individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw—

(a)

plentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad,

(b)

person sy’n dymuno mabwysiadu plentyn, neu

(c)

person mabwysiedig, ei riant, ei riant geni neu ei gyn-warcheidwad,

sy’n cael cymorth o’r math y mae’n ofynnol i wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol ei ddarparu yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(7) neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(8), neu

(d)

unrhyw berson sy’n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan fo’n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’r cymorth a ddarperir i “unigolyn” fel y’i diffinnir yn y rheoliad hwn, mae “cymorth” yn cynnwys—

(a)y cymorth y mae’n ofynnol i wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol ei ddarparu i unigolion yng nghwrs trefnu mabwysiad neu ar ôl i fabwysiad gael ei drefnu yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005, neu

(b)y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae awdurdod lleol yn eu darparu neu’n trefnu i’w darparu(9).

RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

3.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Cynnwys y datganiad o ddiben

4.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

5.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

(6Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)unigolion;

(c)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

(7Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

6.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unigolion;

(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn;

(c)unrhyw awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi trefnu bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu gan y gwasanaeth;

(d)staff,

ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gwasanaeth a lunnir gan y rheolwr yn unol â rheoliad 39(4).

Gofyniad i benodi rheolwr

7.—(1Rhaid i bob darparwr gwasanaeth benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(a)o enw’r person a benodir yn rheolwr, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn ysgrifenedig os yw’r person a benodir o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli’r gwasanaeth.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

8.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 22(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwr

9.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—

(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhannau 9 i 12 (dyletswyddau i’w cyflawni gan y rheolwr).

(3Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 9 i 12, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

10.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)diogelu (gweler rheoliad 19);

(b)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 23);

(c)disgyblu staff (gweler rheoliad 25);

(d)cwynion (gweler rheoliad 31);

(e)chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 32).

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir cymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Dyletswydd gonestrwydd

11.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unigolion;

(b)unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny.

RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu cymorth

Gwybodaeth am y gwasanaeth

12.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2Rhaid iʼr canllaw—

(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen;

(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

(c)cael ei roi i unrhyw unigolyn sy’n cael cymorth;

(d)cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

(3Rhaid iʼr canllaw gynnwys gwybodaeth am—

(a)sut i godi pryder neu wneud cwyn;

(b)argaeledd gwasanaethau eirioli;

(c)rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

Cytundeb gwasanaeth

13.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn sy’n cael cymorth gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud ag—

(a)y cymorth a ddarperir i’r unigolyn;

(b)unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolion yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.

RHAN 4Gofyniad ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu

Safonau’r cymorth – gofynion cyffredinol

14.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd—

(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a

(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

Gwybodaeth

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan unigolyn yr wybodaeth y mae ei hangen arno i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir cymorth iddo.

(2Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—

(a)natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;

(b)lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;

(c)yn achos plentyn, oedran y plentyn.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Iaith a chyfathrebu

16.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn.

Parch a sensitifrwydd

17.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;

(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(10)) yr unigolyn.

RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu

Diogelu - gofyniad cyffredinol

18.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

19.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,

(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir cymorth ar ei gyfer,

(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Dehongli Rhan 5

20.  Yn y Rhan hon—

ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.

At ddibenion y diffiniad hwn—

(a)

mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—

(i)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

(ii)

bod person yn cael ei dwyllo;

(iii)

bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

(iv)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

(b)

mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014(11);

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(12).

RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

21.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)i angen unigolion am gymorth,

(c)i gynorthwyo unigolion i ddiwallu eu hangen am gymorth,

(d)iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)i ofynion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

Addasrwydd staff

22.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs dyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael cymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru.

(3Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth, at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth diweddaruʼr GDG”).

(4Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)pan fo’n briodol, hysbysu—

(i)y corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cefnogi a datblygu staff

23.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;

(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth fel rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwybodaeth ar gyfer staff

24.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.

Gweithdrefnau disgyblu

25.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant unigolion;

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)y darparwr gwasanaeth,

(b)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

(c)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y darperir y gwasanaeth,

(d)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(e)swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd

Gofyniad cyffredinol

26.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Digonolrwydd mangreoedd

27.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)goruchwylio staff;

(b)storio cofnodion yn ddiogel.

RHAN 8Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Cofnodion

28.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sicrhau bod cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3 yn gywir ac yn gyfredol;

(b)cadw’r cofnodion yn ddiogel;

(c)gwneud trefniadau addas er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

(d)rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

(e)pan fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud mewn perthynas â phlentyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r plentyn a mabwysiadydd y plentyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y gorchymyn mabwysiadu;

(f)pan fo gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu i unigolyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r unigolyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(g)mewn achos nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e) neu (f), gadw—

(i)cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am 3 blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(ii)cofnodion sy’n ymwneud â phlant am 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(h)sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

(i)yn gallu cael mynediad i’w cofnodion, a

(ii)yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Hysbysiadau

29.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 4.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r plentyn wedi ei lleoli ar gyfer ei fabwysiadu ynddi am y digwyddiad a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 4.

(3Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwn gynnwys manylion y digwyddiad.

(4Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Gwrthdaro buddiannau

30.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

Polisi a gweithdrefn gwyno

31.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,

(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a

(d)cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Chwythuʼr chwiban

32.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant personau y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

(2Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

RHAN 9Gofynion ar reolwyr ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

33.—(1Rhaid i’r rheolwr adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

34.  Rhaid i’r rheolwr, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)am unrhyw bryderon ynghylch darparu’r gwasanaeth,

(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac

(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Ymgysylltu ag unigolion ac eraill

35.—(1Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny,

(c)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth, a

(d)unrhyw awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr,

ar ansawdd y cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2Rhaid i’r rheolwr adrodd am y safbwyntiau a geir er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

RHAN 10Gofynion ar reolwyr ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

36.  Rhaid i’r rheolwr sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliad 29.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

37.  Rhaid i’r rheolwr sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â’r cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion yn gywir ac yn gyflawn, y mae rhaid eu cadw yn unol â rheoliad 28.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

38.  Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

RHAN 11Gofynion ar reolwyr ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth

Adolygiad o ansawdd y gwasanaeth

39.—(1Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob 6 mis.

(3Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r rheolwr wneud trefniadau ar gyfer—

(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 35 (ymgysylltu ag unigolion ac eraill);

(b)dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;

(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;

(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r rheolwr lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)asesiad o safon y cymorth a ddarperir, a

(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

RHAN 12Gofynion eraill ar reolwyr

Cymorth ar gyfer codi pryderon

40.  Rhaid i’r rheolwr sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr gwasanaeth a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Dyletswydd gonestrwydd

41.  Rhaid i’r rheolwr weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unigolion, a

(b)unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny.

RHAN 13Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr a gymeradwywyd

42.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)bod â chynlluniau ysgrifenedig ar ei strategaeth i recriwtio nifer digonol o fabwysiadwyr;

(b)bod â chynlluniau cynhwysfawr ar gyfer prosesau paratoi a chymeradwyo ar gyfer mabwysiadwyr yn ei bolisïau a’i weithdrefnau;

(c)darparu gwybodaeth ysgrifenedig i ddarpar fabwysiadwyr am y broses fabwysiadu gan gynnwys gwybodaeth am—

(i)y polisi a’r gweithdrefnau mewn cysylltiad â’r broses fabwysiadu;

(ii)trefniadau ar gyfer asesu’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’u darparu;

(iii)Cofrestr Fabwysiadu Cymru ac unrhyw gofrestr fabwysiadu genedlaethol berthnasol arall;

(iv)trefniadau lleol a rhanbarthol;

(d)darparu cynhorthwy pan amharwyd ar leoliad neu pan fo perygl y bydd hynny’n digwydd, sy’n cynnwys defnyddio cyfryngu a chyfarfodydd.

RHAN 14Diwygiad amrywiol

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

43.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5—

(a)ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—

(bb)unigolyn sy’n dod o fewn rheoliad 3(e) o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(14).;

(b)ym mharagraff (2), hepgorer y geiriau o “ond, o ran darparu” hyd at y diwedd.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Chwefror 2019

Rheoliadau 2(1) a 4

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn datganiad o ddiben gan ddarparwr gwasanaeth

Rhaid iʼr datganiad o ddiben a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw a phrif gyfeiriad yr awdurdod lleol;

(b)enw a chyfeiriad y rheolwr;

(c)datganiad o ystod anghenion yr unigolion y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu ar eu cyfer;

(d)sut y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu i ddiwallu anghenion unigolion ac iʼw cefnogi i ddiwallu’r anghenion hynny;

(e)manylion strwythur rheoli a staffio’r gwasanaeth;

(f)manylion y trefniadau a wnaed i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol unigolion;

(g)manylion ynghylch sut y bydd y darparwr gwasanaeth yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg;

(h)nodau ac amcanion y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’r gwasanaeth, gan gynnwys achosion sy’n ymwneud â mabwysiadu trawswladol;

(i)y trefniadau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu rhoi yn eu lle i asesu gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwneud darpariaeth ar eu cyfer;

(j)cymwysterau perthnasol a phrofiad y rheolwr;

(k)nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth at ddibenion y gwasanaeth;

(l)y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth o safon briodol;

(m)y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol;

(n)manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’r gweithdrefnau i asesu ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’u darparu;

(o)crynodeb o’r gweithdrefnau cwyno a sefydlir yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014(15), Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014(16) ac adrannau 171 a 172 o Ddeddf 2014(17);

(p)cyfeiriad a rhif ffôn y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Rheoliadau 2(1) a 22

ATODLEN 2

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaeth

1.  Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(18), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(19) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

5.  Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.  Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu cymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu cymorth ar eu cyfer.

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—

(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 22(3) neu (6) (addasrwydd staff), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Rheoliad 28

ATODLEN 3

RHAN 1Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn—

(a)enw llawn;

(b)dyddiad geni;

(c)a yw’r person—

(i)yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant a’i warcheidwad;

(ii)yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;

(iii)yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;

(d)disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;

(e)disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;

(f)disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;

(g)a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o’r Ddeddf;

(h)cynlluniau gan gynnwys—

(i)cynlluniau cymorth mabwysiadu;

(ii)cynlluniau gofal a chymorth;

(iii)cynlluniau lleoliadau;

(i)adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

3.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

4.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;

(d)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(e)a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(f)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;

(g)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(h)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(i)hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ac arfarnu;

(j)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(k)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

5.  At ddibenion paragraff 1 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—

(a)mae i “person perthynol” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005;

(b)“cynllun cymorth mabwysiadu” yw’r cynllun sy’n nodi’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a’r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw’n gymwys);

(c)ystyr “cynllun gofal a chymorth” yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

(d)mae i “cynllun lleoliad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 36(2) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.

Rheoliad 29

ATODLEN 4Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

1.  Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda darpar fabwysiadwr pan na fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud eto.

2.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag (a) arfer swyddogaethau gan awdurdodau lleol neu asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol mewn perthynas â mabwysiadu, neu (b) arfer swyddogaethau gan asiantaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu. Ni chyfyngir ar y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 9 gan y pwerau penodol yn adrannau 10 i 12, 45, 54 a 56 i 65 a 98, na chan unrhyw bwerau eraill sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “darparwyr gwasanaethau”. Cyfeirir at wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol yn y Rheoliadau hyn fel “gwasanaeth”.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Mae “cymorth” yn cynnwys y cymorth y mae’n ofynnol i wasanaeth ei ddarparu yng nghwrs gwneud trefniadau ar gyfer mabwysiadu neu ar ôl i fabwysiadau gael eu trefnu, yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r gwasanaeth yn eu darparu neu’n trefnu i’w darparu.

Mae Rhan 2 yn amlinellu’r gofynion cyffredinol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben (mae Atodlen 1 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad o ddiben), y trefniadau ar gyfer monitro a gwella a’r gofyniad i benodi rheolwr i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth. Mae Rhan 2 hefyd yn nodi’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r gofynion o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu cymorth. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r wybodaeth hon fod ar ffurf canllaw ysgrifenedig ac yn nodi gofynion manwl am y canllaw, gan gynnwys ei gynnwys a’i fformat.

Mae Rhan 4 yn cynnwys gofynion o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cyffredinol yn ogystal â gofynion mwy manwl sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion a thrin unigolion â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 5 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth.

Mae Rhan 6 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff.

Mae Rhan 6 hefyd yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth benodol a dogfennaeth benodol fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau, fel y’u nodir yn Atodlen 2.

Ymhlith y gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 6 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu addas. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd ynddo’i hun yn sail dros achos disgyblu.

Mae Rhan 7 yn sicrhau bod mangreoedd sydd i’w defnyddio mewn perthynas â gwasanaethau yn ddigonol ar gyfer goruchwylio staff a storio cofnodion yn ddiogel.

Mae Rhan 8 yn nodi’r gofyniad i gadw cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth ac mae Atodlen 3 yn nodi’r cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw. Mae Rhan 8 hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwyno a pholisi chwythu’r chwiban yn eu lle.

Mae Rhannau 9 i 12 yn cynnwys y gofynion a osodir ar y rheolwr a gyflogir gan y gwasanaeth.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofynion ar reolwyr sy’n ymwneud â goruchwylio digonolrwydd adnoddau yn effeithiol a gwneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd yr adnoddau ac ar faterion eraill. Mae’n ofynnol i’r rheolwr wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill er mwyn i’w safbwyntiau ar ansawdd y cymorth allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 10 yn nodi’r gofynion ar y rheolwr ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion eraill, gan gynnwys cadw cofnodion. Rhaid i’r rheolwr hefyd roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion a sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cael eu cadw’n gyfredol.

Mae Rhan 11 yn nodi’r gofynion mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y cymorth a ddarperir, gan gynnwys gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 12 yn nodi gofynion eraill ar y rheolwr, gan gynnwys gofynion i sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu’r chwiban.

Mae Rhan 13 yn cwmpasu gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau ac yn cynnwys gofyniad i gael strategaeth yn ei lle ar gyfer recriwtio niferoedd digonol o fabwysiadwyr ac i ddarparu gwybodaeth am y broses fabwysiadu i ddarpar fabwysiadwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2002 p. 38; mae adran 144(1) o’r Ddeddf yn diffinio “regulations” fel rheoliadau a wneir gan y Gweinidog priodol, oni bai ei bod yn ofynnol i’r Arglwydd Ganghellor, yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Cofrestrydd Cyffredinol eu gwneud. Mae adran 144(1) yn diffinio mai’r “appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”) o ran Cymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

2010 p. 15, adran 20.

(9)

Mae adran 3(4) o’r Ddeddf yn darparu y caiff awdurdod lleol ddarparu unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau angenrheidiol drwy sicrhau y cânt eu darparu gan (a) cymdeithasau mabwysiadu cofrestredig, neu (b) personau eraill sydd o fewn disgrifiad a ragnodir gan reoliadau o bersonau a gaiff ddarparu’r cyfleusterau o dan sylw. Mae “cyfleusterau” yn cynnwys gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu (adran 3(2)(b)). Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 yn rhagnodi, at ddibenion adran 3(4)(b), bersonau ac eithrio cymdeithasau mabwysiadu cofrestredig a gaiff ddarparu’r cyfleusterau angenrheidiol.

(11)

Diffinnir “the 2014 Act” (“Deddf 2014”) yn adran 2(5) o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

(12)

2005 p. 9.

(14)

O.S. 2019/XXX (W. XX).

(17)

Diffinnir “the 2014 Act” (“Deddf 2014”) yn adran 2(5) o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

(19)

2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod i’w benodi.