Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019

RHAN 4Gofyniad ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu

Safonau’r cymorth – gofynion cyffredinol

14.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd—

(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a

(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

Gwybodaeth

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan unigolyn yr wybodaeth y mae ei hangen arno i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir cymorth iddo.

(2Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—

(a)natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;

(b)lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;

(c)yn achos plentyn, oedran y plentyn.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Iaith a chyfathrebu

16.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn.

Parch a sensitifrwydd

17.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;

(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1)) yr unigolyn.