xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
19.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,
(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir cymorth ar ei gyfer,
(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
20. Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.
At ddibenion y diffiniad hwn—
mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
bod person yn cael ei dwyllo;
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014(1);
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(2).
Diffinnir “the 2014 Act” (“Deddf 2014”) yn adran 2(5) o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).