Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru o dan adran 36(1) o Ddeddf Trydan 1989 am gydsyniad i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A(2) o’r Ddeddf honno am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo sy’n cael ei wneud gyda’r cais o dan adran 36; ac

ystyr “colofn 3” (“column 3”) yw colofn 3 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Ffioedd

2.—(1Rhaid i’r ceisydd dalu ffi i Weinidogion Cymru am wneud cais.

(2Y ffi yw cyfanswm—

(a)y ffi gychwynnol yn unol â rheoliad 3;

(b)y ffi ar gyfer archwilio cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 4; ac

(c)y ffi ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.

Y ffi gychwynnol

3.—(1Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi gychwynnol i Weinidogion Cymru (“y ffi gychwynnol”).

(2Y ffi gychwynnol yw’r swm a nodir yn rhes 1 o golofn 3.

(3Rhaid i’r ffi gychwynnol fynd gyda’r cais.

Y ffi archwilio

4.—(1Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am archwilio cais (“y ffi archwilio”).

(2Mae’r ffi archwilio i’w gyfrifo fel cyfanswm—

(a)nifer y diwrnodau neu ran o ddiwrnod a dreulir yn archwilio cais wedi ei luosi â—

(i)pan fo cais yn cael ei archwilio drwy wrandawiad neu ymchwiliad, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 2 o golofn 3;

(ii)ym mhob achos arall, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 3 o golofn 3; a

(b)unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi amcangyfrif ysgrifenedig i’r ceisydd o nifer y diwrnodau y disgwylir eu cymryd i archwilio’r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (3) ar unrhyw adeg.

(5Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd ar gyfnodau rhesymol mewn cysylltiad â nifer y dyddiau a dreulir mewn gwirionedd yn archwilio’r cais ac unrhyw gostau yr eir iddynt wrth archwilio’r cais.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

(7Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes i Weinidogion Cymru gael y taliad.

(8Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

(9Mae’r ffi archwilio yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

(10Yn y rheoliad hwn, bernir bod “diwrnod” yn 7.4 awr.

Y ffi benderfynu

5.—(1Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch cais (“y ffi benderfynu”).

(2Y ffi benderfynu yw cyfanswm—

(a)ffi benodedig sef y swm a nodir yn rhes 4 o golofn 3; a

(b)unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch y cais.

(3Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol neu alldaliadau eraill yr eir iddynt neu a delir gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd—

(a)ar gyfer y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl gorffen archwilio’r cais, a

(b)mewn cysylltiad â chostau ac alldaliadau ar gyfnodau rhesymol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

(6Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes iddynt gael y taliad.

(7Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (5) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

(8Mae’r ffi benderfynu yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019