- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
22.—(1) Ar ôl i ymchwiliad gau, rhaid i’r arolygydd arweiniol gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys—
(a)ystyriaeth yr arolygydd arweiniol o’r cais neu’r cais i amrywio;
(b)yr ystyriaeth gan unrhyw arolygwr ychwanegol o’r materion sy’n ymwneud â’r cais neu’r cais i amrywio y mae’r arolygydd ychwanegol wedi ei gyfarwyddo i’w hystyried;
(c)casgliadau’r arolygydd arweiniol; a
(d)argymhellion yr arolygydd arweiniol, neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.
(2) Pan fo asesydd wedi ei benodi, caiff yr asesydd, ar ôl i’r ymchwiliad gau, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r arolygydd mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i roi cyngor yn eu cylch.
(3) Pan fo asesydd yn cyflwyno adroddiad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r arolygydd atodi’r adroddiad hwnnw i’w adroddiad ei hun, a rhaid i’r arolygydd ddatgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’n cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r arolygydd yn anghytuno â’r asesydd, y rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.
(4) Wrth wneud eu penderfyniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig, unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir ar ôl i’r ymchwiliad gau.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i ymchwiliad gau—
(a)yn anghydweld ag arolygydd ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a lunnir gan yr arolygydd, neu yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath; neu
(b)yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru),
ac oherwydd hynny yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan yr arolygydd arweiniol, ni chânt ddod i benderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad hwnnw heb yn gyntaf hysbysu yn ysgrifenedig y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad eu bod yn anghytuno, a’r rhesymau dros hynny; a rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy neu (os yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd, nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) ofyn am ailagor yr ymchwiliad.
(6) Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu’n gofyn am ailagor yr ymchwiliad o dan baragraff (5) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau hynny neu’r archiadau hynny o fewn tair wythnos o ddyddiad hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraff hwnnw.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, fel y gwelant yn dda, beri i ymchwiliad gael ei ailagor, a rhaid iddynt wneud hynny os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd neu awdurdod cynllunio cymwys o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (5) ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (6).
(8) Pan fo ymchwiliad yn cael ei ailagor (pa un ai gan yr un arolygydd arweiniol neu gan arolygydd arweiniol gwahanol)—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir cyflwyno rhagor o dystiolaeth yn eu cylch;
(b)mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 15 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir; ac
(c)mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai’r cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at y cyfarfod rhagymchwiliad yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys