Copïau ychwanegol
26.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i ymchwiliad gau, ofyn am gopïau o’r canlynol oddi wrth unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos neu a ganiateir i ymddangos—
(a)datganiad amlinellol (fel y crybwyllir yn rheoliad 6(4)(c)) a anfonir yn unol â rheoliad 6(4)(a);
(b)datganiad achos neu sylwadau a anfonir yn unol â rheoliad 12;
(c)proflen dystiolaeth a anfonir yn unol â rheoliad 18; neu
(d)unrhyw ddogfen arall neu wybodaeth arall a anfonir at Weinidogion Cymru cyn ymchwiliad neu yn ystod ymchwiliad,
a rhaid iddynt bennu’r cyfnod y mae rhaid iddynt gael y dogfennau hynny ynddo.
(2) Rhaid i unrhyw berson y gofynnir iddo wneud hynny sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y copïau o fewn y cyfnod penodedig.