Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 344 (Cy. 82)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

21 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9(4) a (4A)(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygio Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009

2.  Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009(4) yn lle “44” rhodder “38”.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

21 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 (Gorchymyn 2009) er mwyn rhoi effaith i’r newidiadau i bwyntiau colofn gyflog y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.

Roedd Gorchymyn 2009 yn cysylltu uchafswm y tâl ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru â phwynt 44 ar golofn gyflog y graddfeydd cyflog a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Mae’r Cyd-gyngor Cenedlaethol wedi cyhoeddi graddfeydd cyflog newydd sy’n uno pwyntiau penodol ar y golofn, a bydd hynny’n cael effaith o 1 Ebrill 2019. Effaith hynny yw bod pwynt 44 yn dod yn bwynt 38 o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2009 er mwyn adlewyrchu’r newid i’r golofn gyflog ac nid yw’n diwygio’r uchafswm tâl fel y’i cyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Mewnosodwyd is-adran (4A) gan adran 204 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 p. 28.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p. 32.