- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—
“(c)ystyr “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (“European Single Market State”) yw un o wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir.”.
(3) Yn Atodlenni 3 a 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Gwladwriaeth y Farchnad Sengl Ewropeaidd” (gan dreiglo yn ôl yr angen);
(4) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 10, ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—
(b)"(7) Caniateir marchnata yng Nghymru hadau o amrywogaeth anrhestredig sy’n ddarostyngedig i awdurdodiad a ddyroddwyd gan Wladwriaeth AEE arall yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC(2) at y diben o gasglu gwybodaeth a chael phrofiad ymarferol yn ystod y cyfnod tyfu.
(c)(8) Rhaid i hadau sy’n cael eu marchnata o dan is-baragraff (7) gael eu labelu yn unol ag Erthygl 28 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC.";
(d)ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder “, ac eithrio hadau llysiau o’r rhywogaethau a restrir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(3) a gynhyrchir yn y Swistir”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11(7), yn lle “Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(5)”.
O.S. 2012/245 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/889 (Cy.101), 2014/519 (Cy. 61), 2016/1242 (Cy. 294) a 2017/1095 (Cy. 276).
OJ L 362 9.12.2004, t. 21.
OJ L 193 20.7.2002, t. 33.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys