- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—
“ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—
caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf, neu
awdurdodiad o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;”;
(b)hepgorer y diffiniad “y Comisiwn” (“the Commission”);
(c)hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);
(d)yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) rhodder—
“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC ar ollwng yn fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(1) fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael;”;
(e)yn y diffiniad o “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“the First Simplified Procedure (crop plants) Decision”), mewnosoder ar y diwedd “fel y mae’n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”;
(f)yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990;”.
(3) Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol” hyd at “neu lle mae”.
(4) Yn rheoliad 12(1)(ch)—
(a)hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol”;
(b)ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.
(5) Yn rheoliad 16—
(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);
(b)yn y paragraff (1) newydd, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)lle mae cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael yn cael ei farchnata yn ystod y cyfnod perthnasol at ddefnydd y mae wedi’i gymeradwyo ar ei gyfer cyn y diwrnod ymadael ac yn unol â’r cyfyngiadau a’r amodau yr oedd defnydd o’r cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt cyn y diwrnod ymadael;”;
(c)yn lle is-baragraffau (b) a (c), rhodder—
“(b)lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(2);”;
(d)yn is-baragraff (ch) ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(e)yn lle is-baragraff (d), rhodder—
“(d)lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(3) neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(4) yn cael ei farchnata.”;
(f)hepgorer is-baragraff (e);
(g)ar ôl y paragraff (1) newydd mewnosoder—
“(2) At ddibenion paragraff (1)(aa), ystyr “y cyfnod perthnasol” mewn perthynas â chynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael, yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r caniatâd o dan sylw yn peidio â bod yn ddilys.”
(6) Yn rheoliad 17(2)—
(a)yn is-baragraff (b)—
(i)yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(ii)hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;
(b)yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2002/811/EC,”;
(c)yn is-baragraff (g) yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/812/EC”.
(7) Yn rheoliad 21—
(a)hepgorer is-baragraff (c);
(b)yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.
(8) Yn rheoliad 22—
(a)ym mharagraff (3) hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;
(b)yn lle paragraff (6) rhodder—
“(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.”.
(9) Yn rheoliad 24—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)gwahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais a osodir ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, cyn diwedd cyfnod sydd i’w bennu nad yw’n llai na 60 diwrnod o’r dyddiad y daeth y cais i law Gweinidogion Cymru;”;
(ii)yn lle is-baragraff (d), rhodder—
“(d)ystyried unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, a wnaed i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod a bennir yn unol â pharagraff (b);”;
(b)hepgorer paragraff (2);
(c)ym mharagraff (3), yn lle “mharagraffau (1) a (2)” rhodder “mharagraff (1)”;
(d)hepgorer paragraff (4).
(10) Yn rheoliad 25—
(a)yn lle paragraffau (1) i (4) rhodder—
“(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, neu ei wrthod, cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliad 24(1)(b) a (d) uchod ac, os ceir unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 24(1)(d) o fewn y cyfnod hwnnw, cyn bod Gweinidogion Cymru wedi ystyried y sylwadau hynny.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law a rhaid iddynt gynnwys, pan roddir gwybod am unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y gwrthodiad hwnnw.
(4) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yn cynnwys—
(a)unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru, neu
(b)unrhyw gyfnod pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 24(1)(b), ar yr amod nad yw ystyriaeth o’r fath yn estyn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (3) am fwy na 30 o ddiwrnodau.”;
(b)ym mharagraff (5)—
(i)hepgorer “o dan ddarpariaethau perthnasol yr UE”;
(ii)yn lle’r geiriau o “gatalog cenedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd, rhodder “Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad (3) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(5)”;
(c)ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “gofrestr genedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd rhodder “y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(6)”.
(11) Yn rheoliad 26 hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).
(12) Yn rheoliad 27—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”;
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y penderfyniad hwnnw.”.
(13) Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.
(14) Yn lle rheoliad 32 rhodder—
(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf onid ydynt wedi cael cytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”.
(15) Yn rheoliad 33—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “cynnyrch a gymeradwywyd” rhodder “marchnata cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael”;
(b)hepgorer paragraffau (3) i (5).
(16) Yn rheoliad 35—
(a)ym mharagraff (3)—
(i)yn is-baragraff (f), ar ôl “ollwng” mewnosoder “, neu farchnata,”;
(ii)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—
“(ff)y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth o dan sylw yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—
(a)enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;
(b)enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;
(c)enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;
(ch)marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;
(d)cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;
(dd)yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;
(e)gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi eu storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa a’r amodau storio priodol a’r oed silff.”;
(c)ym mharagraff (7), ar ôl “roddwyd” mewnosoder “cyn y diwrnod ymadael”;
(d)ym mharagraff (9) yn lle “gan y Comisiwn” rhodder “cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd”.
(17) Yn rheoliad 36 hepgorer paragraffau (8) a (10).
(18) Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff (2) hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(b)ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;
(c)ym mharagraff 7, yn y frawddeg gyntaf hepgorer y geiriau o “at ddibenion” hyd at “addasiadau mewn organeddau,”;
(d)ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(e)ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.
(19) Yn Atodlen 4 ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2018/350 (OJ Rhif L 67, 9.3.2018, t. 30).
O.S. 201/1916, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/235, 2013/1855, 2013/2593, 2014/323, 2014/324, 2014/490, 2014/1878, 2015/178, 2015/259, 2015/354, 2015/903, 2015/1503, 2015/1862, 2015/1879, 2016/186, 2016/190, 2016/696, 2017/715, 2017/1322, 2018/199, 2018/378.
O.S. 2013/2033, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/599, 2018/761.
O.S. 2001/3510, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/2949, 2011/464, 2018/942: mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2002/3026, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys