Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

RHAN 2LL+CDiwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010LL+C

2.—(1Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 9(3), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU(2)”.

(3Yn adran 17(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997(3)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 200(4)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1127” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997”.

(3Yn rheoliad 7(10), ar y diwedd mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor 2011/97/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 3 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005LL+C

4.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 47(5B), ar ôl “gwastraff,” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU”.

(3Yn rheoliad 48(6B), ar ôl “gwastraff,” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 4 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011LL+C

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(6) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor (EU) 2015/1127” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 5 mewn grym ar 22.3.2019, gweler rhl. 1(2)(a)

(1)

2010 mccc 8, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 328, 10.12.2011, t 49.

(3)

OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t 1.

(4)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141) ac O.S. 2018/721 (Cy. 140); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2011/1014 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/691 (Cy. 189); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.