xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
2. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc” mewnosoder “Gibraltar”;
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
(c)ym mharagraff (5)(b) ac (c), ar ôl “y tu allan i’r diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”;
(d)ym mharagraff (6)—
(i)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii)yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”;
(e)ym mharagraff (7), ar ôl “mae ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 3 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae’r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a)hepgorer y diffiniad o “gwladolyn o’r GE”;
(b)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)ar ôl y diffiniad o “gwladolyn o’r AEE”, mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;”;
(d)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, yn lle “gwladolyn o’r GE” rhodder “gwladolyn o’r UE” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(3) Yn y paragraffau a ganlyn—
(a)ym mharagraff 3(ch) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(b)ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)ym mharagraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd”.
(4) Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(a)yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(b)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”.
(5) Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r GE)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Gwladolion o’r GE” rhodder “Gwladolion o’r UE”;
(b)yn is-baragraff (1)—
(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle “yn wladolyn o’r GE” rhodder “yn wladolyn o’r UE”;
(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)yn lle is-baragraff (1A), rhodder—
“(1A) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii)yn wladolyn o’r UE; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
(d)ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—
“(3) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(6) Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r GE)—
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sy’n wladolyn o’r UE”;
(b)yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)yn is-baragraff (2), yn lle “yn wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”, rhodder “yn wladolyn o’r UE”.
(7) Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion o’r Swistir), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(8) Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr o Dwrci), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 4 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
5. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 5 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”, ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)yn is-baragraffau (7) ac (8), ar ôl “diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a)yn y paragraffau a ganlyn, ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”—
(i)paragraff 3(d) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig);
(ii)paragraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iii)paragraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iv)paragraff 8(1)(d) ac (e) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall);
(b)ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(i)yn lle is-baragraff (1)(a), rhodder—
“(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol—
(i)yn wladolyn o’r UE;
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii)yn is-baragraff (4), yn lle “os yw’r person hwnnw” rhodder “os oedd y person hwnnw yn preswylio yn Gibraltar neu os yw’r person hwnnw”;
(iv)ar ôl is-baragraff (4), mewnosoder—
“(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(c)ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (d), ar ôl “yn y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(d)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(e)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Mae Atodlen 2 (cyfraniad y myfyriwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1(1), yn y diffiniad o “incwm trethadwy”—
(a)ym mharagraff (b), yn lle “un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE”;
(b)yn lle paragraff (c), rhodder—
“(c)pan fo deddfwriaeth—
(i)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir;
(ii)mwy nag un o Wladwriaethau’r AEE; neu
(iii)un o Wladwriaethau’r AEE a’r Swistir
yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),”.
(3) Yn Rhan 2 (cyfrifo cyfraniad)—
(a)ym mharagraff 3(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys), yn lle “un o Wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE”, ym mhob lle y mae’n digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a)yn is-baragraff (1)—
(i)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc” mewnosoder “Gibraltar”;
(b)yn is-baragraff (3)—
(i)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii)yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
(c)yn is-baragraff (4)(b) ac (c), ar ôl “i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(d)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn y paragraffau a ganlyn, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”—
(a)paragraff 3(d) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig);
(b)paragraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu);
(c)paragraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu).
(4) Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(a)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(b)yn is-baragraff (1)(e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(5) Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(b)yn lle is-baragraff (2), rhodder—
“(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii)yn wladolyn o’r UE; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(c)ar ôl is-baragraff (3), mewnosoder—
“(4) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(6) Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(a)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(b)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(c)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”.
(7) Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(8) Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
9. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
10. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”)—
(a)ar ôl “blwyddyn academaidd cwrs” mewnosoder “, pa un a ddechreuodd y flwyddyn academaidd honno cyn y diwrnod ymadael ai peidio,”;
(b)ar ôl “pryd y bydd myfyriwr”, mewnosoder “, neu yr oedd myfyriwr, yn union cyn y diwrnod ymadael,”;
(c)yn is-baragraff (c)—
(i)ym mharagraff (ii)(aa), o flaen “mewn perthynas â’r” mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (iii)”;
(ii)ar ôl paragraff (ii), mewnosoder—
“(iii)mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, ni fydd unrhyw un neu ragor o gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar ôl y diwrnod ymadael yn cael eu cyfrif at ddibenion paragraff (ii)(aa);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 10 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
11. Yn rheoliad 15(d) (digwyddiadau), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 11 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
12. Yn rheoliad 30(1) (grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle paragraff (iii), rhodder—
“(iii)pan fo deddfwriaeth—
(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu
(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 12 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
13. Yn rheoliad 65(4)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 13 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
14. Yn rheoliad 82(4)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 14 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
15. Yn rheoliad 95(1) (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle paragraff (iii), rhodder—
“(iii)pan fo deddfwriaeth—
(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu
(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 15 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” neu “diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y maent yn digwydd, ac ar ôl “diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a)yn y paragraffau a ganlyn, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”—
(i)paragraff 3(d) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig);
(ii)paragraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iii)paragraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iv)paragraff 8(1)(d) ac (e) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall);
(b)ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(i)yn lle is-baragraff (1)(a), rhodder—
“(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)yn wladolyn o’r UE;
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv)ar ôl is-baragraff (4), mewnosoder—
“(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(c)ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”;
(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(d)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(e)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 16 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
17. Yn Atodlen 4 (benthyciadau at ffioedd coleg), paragraff 6(c) ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 17 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae Atodlen 5 (asesiad ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), paragraff (n)—
(a)yn is-baragraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle is-baragraff (iii), rhodder—
“(iii)pan fo deddfwriaeth—
(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu
(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),”;
(3) Ym mharagraff 2(1)(g) (myfyriwr cymwys annibynnol), o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a)paragraff 4(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys);
(b)paragraff 5 (cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant)—
(i)is-baragraff (1)(a);
(ii)is-baragraff (6) ym mhob lle y mae’n digwydd;
(iii)is-baragraff (7).
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 18 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Mae Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), is-baragraff (j)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle paragraff (iii), rhodder—
“(iii)pan fo deddfwriaeth—
(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu
(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),”.
(3) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a)paragraff 3(1) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys);
(b)paragraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys)—
(i)is-baragraff (1)(a);
(ii)is-baragraff (6) ym mhob lle y mae’n digwydd;
(iii)is-baragraff (7).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 19 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
20. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 20 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
21. Yn rheoliad 8(d) (digwyddiadau), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 21 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a)yn y paragraffau a ganlyn, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”—
(i)paragraff 3(d) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig);
(ii)paragraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iii)paragraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iv)paragraff 8(1)(d) ac (e) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall);
(b)ym mharagraff 9 (gwladolion UE)—
(i)yn lle is-baragraff (1)(a), rhodder—
“(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)yn wladolyn UE;
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv)ar ôl is-baragraff (4), mewnosoder—
“(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(c)ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—
(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”;
(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(d)yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(e)ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 22 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
23. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 23 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
24. Yn rheoliad 80(2)(b)(iii) (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 24 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
25. Ym mharagraff 4 (ystyr blwyddyn Erasmus)—
(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “yn flwyddyn academaidd” mewnosoder “, pa un a ddechreuodd y flwyddyn academaidd honno cyn y diwrnod ymadael ai peidio,”;
(b)yn is-baragraff (2), Amod B—
(i)ym mharagraff (c)—
(aa)o flaen “yn ystod y flwyddyn academaidd honno” mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (d)”;
(bb)ar y diwedd, yn lle “.” rhodder “,”;
(ii)ar ôl paragraff (c), mewnosoder—
“(d)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, ni fydd unrhyw un neu ragor o gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ar ôl y diwrnod ymadael yn cael eu cyfrif at ddibenion paragraff (c).”
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 25 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
26.—(1) Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff 1(2)(d) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”.
(3) Ym mharagraff 4 (categori 4 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b)yn is-baragraffau (3) ac (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(4) Ym mharagraff 5(1)(d) ac (e) (categori 5 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”.
(5) Ym mharagraff 6 (categori 6 – gwladolion UE)—
(a)yn lle is-baragraff (1)(a), rhodder—
“(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)yn wladolyn UE,
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),”;
(b)yn is-baragraffau (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c)ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(d)yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(e)yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”;
(f)yn lle is-baragraff (4), rhodder—
“(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(6) Yn lle paragraff 7 (categori 7 – plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(7) Ym mharagraff 8(1)(c) (categori 8 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(8) Ym mharagraff 9 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—
(a)ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 26 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(3) Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—
(a)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle is-baragraff (2), rhodder—
“(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.”
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a)paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;
(b)paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;
(c)paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d)paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 27 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
28.—(1) Mae Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(2)(c) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 28 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
29. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 29 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
30. Yn rheoliad 8(d) (digwyddiadau), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o’r teulu o dan baragraff 10 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 10(5) o’r Atodlen honno”.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 30 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1, paragraff 1 (dehongli)—
(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a)yn y paragraffau a ganlyn, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”—
(i)paragraff 3(d) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig);
(ii)paragraff 7(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iii)paragraff 8(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd);
(iv)paragraff 9(1)(d) ac (e) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall);
(b)ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—
(i)yn lle is-baragraff (1)(a), rhodder—
“(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)yn wladolyn UE;
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii)yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii)yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv)ar ôl is-baragraff (4), mewnosoder—
“(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(c)ym mharagraff 11 (gwladolion UE)—
(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr,”;
(iii)yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(d)yn lle paragraff 12 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—
“12.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(e)ym mharagraff 13(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 31 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)
O.S. 2007/2310 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2011/1978 (Cy. 218) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2014/3037 (Cy. 303) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2015/1484 (Cy. 163) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/276 (Cy. 100) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2017/47 (Cy. 21) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2017/523 (Cy. 109) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169), O.S. 2018/277 (Cy. 53) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2018/191 (Cy. 42) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2018/656 (Cy. 124) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165).