Rhagolygol
Diwygiadau i Atodlen 3LL+C
27.—(1) Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(3) Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—
(a)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle is-baragraff (2), rhodder—
“(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b)mwy nag un Aelod-wladwriaeth
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.”
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a)paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;
(b)paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;
(c)paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d)paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).