Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013
5.—(1) Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;
(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—
“(2) Ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”) mae’r cyfeiriad at baragraff 2(b) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC(2) i’w ddarllen fel pe bai’r trydydd is-baragraff wedi ei hepgor.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad at yr awdurdod a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, yng Nghymru.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr yr “awdurdod” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru.”
(3) Yn rheoliad 11—
(a)ym mharagraff (2)(b), yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl”, rhodder “Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(3) a Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(4)”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Ym mharagraff (3)(a), mae’r cyfeiriad at Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC i’w ddarllen fel pe bai—
(a)pob cyfeiriad ynddo at Erthygl 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriadau at reoliadau 12, 13 a 14 i 46 o’r Rheoliadau hyn;
(b)ym mhwynt A, paragraff 1, “a concentration of nitrates greater than 50mg/l” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “more than” hyd at “Directive 75/440/EEC”.”
(4) Yn rheoliad 47, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Fel rhan o’r adolygiad a gynhelir o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu sefyllfa gyffredinol rhanddirymiadau a roddir o dan reoliad 13A yn erbyn—
(a)meini prawf gwrthrychol, gan gynnwys—
(i)presenoldeb, mewn parthau perygl nitradau dynodedig—
(aa)tymhorau tyfu hir,
(bb)cnydau sy’n amsugno lefel uchel o nitrogen, a
(cc)priddoedd sydd â gallu eithriadol o uchel i ddadnitreiddio, a
(ii)y dŵr glaw net mewn parthau perygl nitradau dynodedig;
(b)yr amcanion a ganlyn—
(i)lleihau llygredd dŵr a achosir neu a ysgogir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, a
(ii)atal llygredd pellach o’r fath.”
(5) Ar ôl rheoliad 48, mewnosoder—
“Adroddiad gweithredu
48A.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar weithredu’r Rheoliadau hyn ar gyfer pob cyfnod perthnasol.
(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)manylion unrhyw gamau a gymerwyd i hybu arfer amaethyddol da;
(b)y map a adneuwyd o dan reoliad 7(2), gyda datganiad sy’n rhoi manylion natur unrhyw ddiwygiadau i’r parth perygl nitradau dynodedig ers diwedd y cyfnod adrodd blaenorol, a’r rhesymau dros y diwygiadau hynny;
(c)crynodeb o’r canlyniadau monitro o dan reoliad 11;
(d)crynodeb o’r adolygiad diweddaraf a gynhaliwyd o dan reoliad 47.
(3) Rhaid cyhoeddi unrhyw adroddiad o dan baragraff (1)—
(a)mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;
(b)erbyn diwrnod olaf y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cyfnod perthnasol i ben.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau ag 1 Ionawr 2016 a phob cyfnod dilynol o bedair blynedd.”
O.S. 2013/2506 (Cy. 245), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2015/2020 (Cy. 308) a 2018/1216 (Cy. 249).
OJ Rhif L 375, 31.12.1991, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).
O.S. 2017/1041 (Cy. 270), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/647 (Cy. 121).