xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
13 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2019
Yn dod i rym
8 Ebrill 2019
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru(1) drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(2).
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Fynwy) 2019 a daw i rym ar 8 Ebrill 2019.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2019
Erthygl 2
Ardal Sir Fynwy (“y Sir”) ac eithrio—
(a)y darn o Draffordd yr M4 o fewn y Sir, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at y ffin wrth Bont Tywysog Cymru, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(b)y darn o Draffordd yr M48 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Thraffordd yr M4 hyd at y ffin â Phont Afon Gwy, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(c)y darn o Gefnffordd yr A40 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A465 hyd at y ffin â Sir Powys ac o’i chyffordd â Chefnffordd yr A465 hyd at y ffin â Swydd Henffordd, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(d)y darn o Gefnffordd yr A465 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A40 hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac o’i chyffordd â Chefnffordd yr A40 hyd at y ffin â Swydd Henffordd, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(e)y darn o Gefnffordd yr A449 o fewn y Sir, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A40, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(f)y darn o Gefnffordd yr A4042 o fewn y Sir, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Torfaen hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A465;
(g)y darn o Gefnffordd yr A466 o fewn y Sir, o’i chyffordd â thraffordd yr M48 hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A48; ac
(h)y darn o Gefnffordd yr A48 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A466 hyd at y ffin â Swydd Gaerloyw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yw galluogi Cyngor Sir Fynwy i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=14828
Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.