Trawsatebyddion
13.—(1) At ddibenion Erthygl 18(3), y cymhwyster gofynnol i’r person yr ymddiriedir ynddo i fewnblannu trawsatebydd yw aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, ac yn y rheoliad hwn cyfeirir at y person hwnnw fel “milfeddyg”.
(2) Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl gymryd y mesurau a nodir yn Erthyglau 16 a 17(1) ar ran corff dyroddi.
(3) At ddibenion Erthygl 18(5), rhaid i’r person cyfrifol drefnu bod milfeddyg yn mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl y bernir ei fod wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2) neu 43(1)—
(a)os bydd trawsatebydd a fewnblannwyd ac a gofnodwyd o’r blaen yn peidio â gweithredu;
(b)os bydd y ceffyl yn cyrraedd Cymru ar ôl mynd drwy ddull arall o ddilysu ei fanylion adnabod a awdurdodwyd gan Aelod-wladwriaeth arall o dan Erthygl 21; neu
(c)os yw’r ceffyl—
(i)heb fod yn syrthio o fewn is-baragraffau (a) neu (b);
(ii)heb gael trawsatebydd wedi ei fewnblannu eisoes i gydymffurfio â’r gofynion neu’r manylion ynglŷn â thrawsatebyddion a nodir yn Rheoliad yr UE neu Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 504/2008(1) dyddiedig 6 Mehefin 2008 yn gweithredu Cyfarwyddebau’r Cyngor 90/426/EEC a 90/427/EEC o ran dulliau adnabod equidae; a
(iii)wedi ei eni ar neu cyn 30 Mehefin 2009.
(4) Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl sicrhau bod y trawsatebydd yn dangos cod sy’n unigryw i’r trawsatebydd.
OJ Rhif L 149, 7.6.2008, t. 3.