xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12. Yn erthygl 6—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru, oni bai y rhoddir hysbysiad yn unol â’r erthygl hon.”;
(b)ym mharagraff (2)(c), yn lle “i’r deunydd perthnasol gael ei lanio”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “iddo gyrraedd”;
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn achos tatws hadyd sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, rhaid cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11—
(a)y defnydd arfaethedig ohonynt;
(b)eu cyrchfan arfaethedig;
(c)eu hamrywogaeth a’u nifer;
(d)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.
(3A) Yn achos planhigion Castanea Mill, Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, rhaid cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11—
(a)eu cyrchfan arfaethedig;
(b)eu genws, eu rhywogaeth a’u nifer;
(c)rhif adnabod cyflenwr y planhigion.”;
(d)ym mharagraff (5), yn lle “, 16 a 30(3)” rhodder “ac 16”.