- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)hepgorer y diffiniadau o “y Gyfarwyddeb” a “Cynulliad Cenedlaethol”;
(b)yn y diffiniad o “cofrestr”, yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;
(ii)yn lle “â’r Gyfarwyddeb” rhodder “â pharagraff (3)”;
(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Rhaid i’r rhif adnabod gael ei ffurfio o’r cod dull ffermio priodol a bennir yn unol â pharagraffau (5) i (7), wedi ei ddilyn gan y llythrennau “UK”, wedi eu dilyn gan rif adnabod unigryw a ddyrennir i’r sefydliad gan Weinidogion Cymru.
(4) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol gwneud hynny, caniateir iddynt ychwanegu nodau pellach i’r rhif adnabod unigryw sy’n ofynnol gan baragraff (3) er mwyn adnabod heidiau unigol a gedwir gan sefydliad mewn adeiladau ar wahân.
(5) Ac eithrio pan fo paragraff (6) yn gymwys, pan ddefnyddir y dull ffermio yng ngholofn A, y cod dull ffermio priodol yw’r rhif cyfatebol yng ngholofn B.
Colofn A | Colofn B |
---|---|
Maes | 1 |
Ysgubor | 2 |
Cewyll | 3 |
(6) Pan fo’r dull ffermio a ddefnyddir yn y sefydliad yn cynhyrchu wyau o dan yr amodau a nodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig, y cod dull ffermio priodol yw “0”.
(7) At ddibenion paragraff (5), mae’r dull ffermio a ddefnyddir mewn sefydliad i’w bennu yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau.”
(4) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (2), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”, ac ym mharagraff (4), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle “mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani” rhodder “mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani”.
(5) Yn rheoliad 7(1), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”, ac yn rheoliad 11, yn lle “neu’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “neu Weinidogion Cymru”.
O.S. 2004/1432 (Cy. 145), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys