- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (“y Rheoliad Dirprwyedig”).
Maent yn gwneud hyn drwy ddiwygio Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”), syʼn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ofynion Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau (“Rheoliad yr UE”).
Mae Rheoliad yr UE yn nodi’r gofynion cyffredinol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer categorïau penodol o fwyd. Mae’r Rheoliad Dirprwyedig yn nodi’r gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig.
Mae Rheoliadau 2016 yn darparu ar gyfer gorfodi gofynion a bennir gan Reoliad yr UE drwy gymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990.
Maeʼr gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad bwyd at ddibenion meddygol arbennig wedi eu mewnosod yn Atodlen 1 i Reoliadau 2016, ac maent yn dod yn ‘gofynion UE penodedig’, y maeʼr darpariaethau sydd wedi eu haddasu yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys iddynt. Mae hyn yn galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno syʼn gwneud cydymffurfedd yn ofynnol. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.
Mae cyfeiriadau at ddarpariaethau’r Rheoliad Dirprwyedig i’w darllen fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae diffiniad o fwyd at ddibenion meddygol wedi ei gynnwys yn Rheoliad yr UE ac mae’r diffiniad hwn yn cynnwys yn ddatganedig fwydydd o’r fath ar gyfer babanod. O 22 Chwefror 2019, nid yw’r Rheoliad Dirprwyedig yn gymwys ond i fwyd at ddibenion meddygol arbennig ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i ddiwallu anghenion maethol babanod. Felly mae angen cyfyngu ar gymhwysiad y Rheoliadau hyn.
Maeʼr Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r diffiniad o fwyd meddygol yn Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) fel nad yw’r Rheoliadau hynny yn gymwys ond i fwyd meddygol a ddatblygir i ddiwallu anghenion maethol babanod.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer bwydydd meddygol a labelir neu a roddir ar y farchnad cyn 22 Chwefror 2019. Caniateir i fwydydd o’r fath barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu cyhyd ag y cânt eu gwerthu gan gydymffurfio â gofynion penodedig Rheoliad yr UE a rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau 2000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys