Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Diwygiadau i ddeddfwriaeth

Diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

2.  Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), hepgorer y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”(1).

4.  Yn adran 74 (rheolau: ffioedd)(2), hepgorer is-adran (3).

5.  Yn adran 80 (y gofrestr)(3), hepgorer is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d).

6.  Yn adran 84 (“wedi ei gymhwyso’n briodol”)(4), hepgorer paragraff (aa)(ii).

7.  Yn adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol)(5), hepgorer is-adran (1).

8.  Hepgorer adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol)(6).

9.  Hepgorer adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)(7).

10.  Hepgorer adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)(8).

11.  Hepgorer adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)(9).

12.  Yn adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus), hepgorer is-adrannau (3) i (5)(10).

13.  Yn adran 164 (ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6)(11)

(a)yn lle “y rhan gweithwyr cymdeithasol, mewn rhan ychwanegol” rhodder “y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol”;

(b)hepgorer “neu yn y rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”.

14.—(1Yn Atodlen 1 (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau), ym mharagraff 7 (gwasanaethau eirioli)—

(a)yn is-baragraff (4)—

(i)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “neu”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)yn unigolyn—

(i)y mae rheoliad 5(1)(a) o’r Rheoliadau Dirymu yn gymwys iddo,

(ii)yr oedd rheoliad 5(1)(b) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac sy’n dod yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (yn rhinwedd penderfyniad ar gais yr unigolyn neu ar apêl),

(iii)yr oedd rheoliad 5(1)(c) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac y caiff ei ataliad dros dro ei derfynu (pa un ai ar apêl neu fel arall), neu

(iv)yr oedd rheoliad 5(1)(d) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac y mae ei gofrestriad yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig wedi ei adfer, neu

(c)yn unigolyn y mae’r darpariaethau yn rheoliad 4A neu 5A o’r Rheoliadau Dirymu yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yn y Deyrnas Unedig ar ôl y diwrnod ymadael.;

(b)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn is-baragraff (4)—

mae i “cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig” yr un ystyr â “registered European lawyer” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) 2000 (O.S. 2000/1119) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “y Rheoliadau Dirymu” (“the Revocation Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/375).

(2Yn Atodlen 1, ym mharagraff 7, hepgorer is-baragraff (4)(b) a’r diffiniad o “cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig” yn is-baragraff (4A) (fel y’i hamnewidir ac y’i mewnosodir gan baragraff (1) o’r rheoliad hwn).

Diwygiad canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

15.  Yn adran 130H(7)(b) (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i Gymru: pwerau a dyletswyddau atodol) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(12), hepgorer “or the visiting European part”.

(1)

Mewnosodwyd y diffiniadau “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” a “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 121(2).

(2)

Amnewidiwyd “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 123.

(3)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 127(2), (3) a (4).

(4)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 129(2) a (3).

(5)

Mewnosodwyd “- gweithwyr cymdeithasol” ym mhennawd yr adran gan O.S. 2016/1030, rheoliad 131(2).

(6)

Mewnosodwyd gan O.S. 2016/1030, rheoliad 133.

(7)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 135.

(8)

Mewnosodwyd gan O.S. 2016/1030, rheoliad 137.

(9)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 139.

(10)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2016/1030, rheoliad 141.

(11)

Amnewidiwyd “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” gan O.S. 2016/1030, rheoliad 143(2).

(12)

1983 p. 20; mewnosodwyd adran 130H gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7), adran 34. Diwygiwyd is-adran (7)(b) o adran 130H gan Ddeddf 2016, Atodlen 3, paragraff 39.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill