xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 8LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinolLL+C

22.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)i angen unigolion am gymorth,

(c)i gynorthwyo unigolion i ddiwallu eu hangen am gymorth,

(d)iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)i ofynion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Addasrwydd staffLL+C

23.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs dyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael cymorth neu â phersonau hyglwyf eraill oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

(c)bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol(1) â GCC(2).

(3Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth, at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth diweddaruʼr GDG”).

(4Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)pan fo’n briodol, roi gwybod—

(i)i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

(ii)i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Cefnogi a datblygu staffLL+C

24.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;

(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth fel rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 24 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Cydymffurfio â chod ymarferLL+C

25.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 25 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth ar gyfer staffLL+C

26.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 26 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefnau disgybluLL+C

27.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant unigolion;

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)y darparwr gwasanaeth,

(b)yr unigolyn cyfrifol,

(c)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

(d)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y darperir y gwasanaeth,

(e)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 27 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler adran 79(1)(b) o’r Ddeddf am y diffiniad o “rheolwr gofal cymdeithasol”.

(2)

Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru fel “GCC”.