Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Rhagolygol

Safonau’r cymorth – gofynion cyffredinolLL+C

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd—

(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a

(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)