Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

Rheoliadau 2(1) a 30

ATODLEN 2LL+CY cofnodion sydd i’w cadw

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn—LL+C

(a)enw llawn;

(b)dyddiad geni;

(c)a yw’r person—

(i)yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad;

(ii)yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;

(iii)yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;

(d)disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;

(e)disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;

(f)disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;

(g)a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002;

(h)cynlluniau gan gynnwys—

(i)cynlluniau cymorth mabwysiadu;

(ii)cynlluniau gofal a chymorth;

(iii)cynlluniau lleoliadau;

(i)adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;

(d)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(e)a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(f)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;

(g)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(h)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(i)hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ohono a’i arfarnu;

(j)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(k)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help