xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Pan fo’r darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff neu wirfoddolwr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
16. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
17. Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
18. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
19. Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
20. Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(1), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
21. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
22. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
23. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)