Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) (“Rheoliadau 2013”) sy’n ymwneud â monitro llygredd nitradau a dynodi parthau perygl nitradau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2013 i ddiweddaru’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i ddynodi ardaloedd yn barthau perygl nitradau. Mae’r broses ddynodi gyfredol yn dibynnu ar adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a gaiff ei diddymu unwaith y mae’r Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2013 i gyflwyno diffiniad ar gyfer “daliad newydd” yn sgil y broses ddynodi newydd.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 er mwyn darparu trefniadau trosiannol ar gyfer daliadau newydd.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ganlyniadol bellach gan gynnwys cyflwyno gofynion adrodd mewn perthynas â daliadau newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.