- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person y mae ei gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig wedi cael ei ganiatáu o dan adran 7(1) o’r Ddeddf;
ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(1);
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(2);
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion” (“the Adult Placement Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(3);
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(4);
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Fostering Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(5);
ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.
3. Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 47 (gwneud datganiadau anwir) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol(6).
4. Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol.
5.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2017 a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 1 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 1 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1.
6.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 2 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 2.
7.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 3 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 3 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 3.
8.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 4 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion rheoliad 12.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 4 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 4.
9.—(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5.
10.—(1) Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’w thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
(2) Mae adran 184 o’r Ddeddf(7) yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.
11.—(1) Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i Weinidogion Cymru drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, sy’n datgan i daliad cosb ddod i law neu na ddaeth i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
12. Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.
13.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
(i)na ddylai fod wedi cael ei roi, neu
(ii)na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu
(b)os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.
(3) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.
(4) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).
(5) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.
14.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y derbynnydd;
(b)swm y gosb;
(c)y cyfnod talu;
(d)y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;
(e)y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(f)y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;
(g)y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;
(h)y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;
(i)ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.
15. Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—
(a)copi o bob hysbysiad cosb a roddir;
(b)cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;
(c)manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;
(d)manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.
16. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017(8) wedi eu dirymu.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2019
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys