xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 938 (Cy. 164)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019

Gwnaed

14 Mai 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod.

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r cod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 40 niwrnod.