xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Enwi, cymhwyso a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 18 Medi 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(b)mae i “swyddog gorfodaeth” yr ystyr a roddir gan reoliad 15;

(c)mae i “cyfarwyddyd digwyddiad” yr ystyr a roddir gan reoliad 6;

(d)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(e)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(f)mae i “cyfarwyddyd mangre” yr ystyr a roddir gan reoliad 5;

(g)mae i “man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2);

(h)mae i “cyfarwyddyd man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Dod i benLL+C

3.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar [F119 Chwefror] 2021.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)