- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, Adran 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, neu y bwriedir ei gynnal, yn ei ardal.
[F1(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull, neu’n debygol o ymgynnull, yn y digwyddiad yn groes i ba un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 sy’n gymwys i’r ardal lle y cynhelir y digwyddiad neu lle y bwriedir cynnal y digwyddiad—
(a)paragraff 2 o Atodlen 1;
(b)paragraff 2 o Atodlen 2;
(c)[F2paragraff 3] 2 o Atodlen 3;
(d)paragraff 2 o Atodlen 4.]
(3) Caiff cyfarwyddyd digwyddiad—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad ddod i ben neu beidio â chael ei gynnal;
(b)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r digwyddiad neu ei adael;
(c)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â nifer y personau a gaiff fod yn bresennol yn y digwyddiad;
(d)gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â chynnal y digwyddiad (gan gynnwys, er enghraifft, gofynion sy’n ymwneud â phresenoldeb gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaethau brys yn y digwyddiad).
(4) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd digwyddiad rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—
(a)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad, a
(b)(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd.
(5) Rhaid i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad y mae cyfarwyddyd digwyddiad yn ymwneud ag ef gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.
(6) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad.
(7) At ddibenion y Rhan hon, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu os na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fod yn bresennol ynddo.
F3[F4(8)] . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 6(2) wedi ei amnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 3(3)(a)
F2Geiriau yn rhl. 6(2)(c) wedi eu hamnewid (3.5.2021 yn union cyn dechrau diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 (O.S. 2021/542), rhlau. 1(2), 4
F3Rhl. 6(8) wedi ei hepgor (20.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 3(3)(b)
F4Rhl. 6(8) wedi ei fewnosod (4.12.2020 am 6.00 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1409), rhlau. 1(2), 3(3)(b)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 6(2)(d) addaswyd (dd.) (13.3.2021 yn union cyn dechrau diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys